Fis Chwefror 1963, cafodd protestiadau cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu cynnal yn nhref Aberystwyth.
Roedd tua 70 o bobol yno ar ôl teithio o sawl rhan o Gymru, gyda’r bwriad o fynd at Swyddfa’r Post a swyddfeydd Cyngor y Dref a’r heddlu.
Roedd ynadon y dref wedi bod yn gwrthod rhoi gwysiau llys yn Gymraeg, ac roedd y criw yn benderfynol o weithredu gan blastro rhai o leoliadau’r dref â phosteri er mwyn procio’r awdurdodau i ymateb, gan gynnwys eu harestio – pe na bai’n llwyddo, roedd y protestwyr yn bygwth cynnal rhagor o brotestiadau mewn trefi eraill.
Fe fu Robat Gruffudd, sylfaenydd Y Lolfa, sy’n siarad â golwg360 ar drothwy rali ‘Nid Yw Cymru Ar Werth’ ar Bont Trefechan, gyda nifer o’r materion yr oedden nhw’n tynnu sylw atyn nhw 59 o flynyddoedd yn ôl yr un mor berthnasol heddiw ag erioed…
Pam dewis Aberystwyth a Threfechan ar gyfer y brotest?
“Roedd Aberystwyth yn lle hwylus a chanolog ond doedd yna ddim bwriad i wneud dim byd â’r bont, dim ond cael gwysion Cymraeg neu ddwyieithog, ac at y pwrpas yna, buon ni’n plastro posteri ar y swyddfa bost. Ond yn sgil methiant hynny, gaethon ni gyfarfod yn yr Home Café. Roedd rhai yn teimlo y dylen ni fynd gartre, gan gynnwys y trefnwyr sef John Davies a Tedi Millward, ond eraill yn dal yn rhwystredig bo ni heb lwyddo. Aeth tua hanner wedyn at y bont, dim ond er mwyn trio cael gwysion.”
Sut fath o gyfnod oedd y 1960au cynnar?
“Roedd yn gyfnod o gyffro gwleidyddol a diwylliannol mewn sawl gwlad. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas yn haf 1962. Roedd yna deimlad nad oedd dulliau gwleidyddol cyffredin yn ddigon, a bod angen mudiad a fyddai’n gweithredu dros yr iaith. Ar ôl Pont Trefechan, fe wnaeth y Gymdeithas ddatblygu fel corff di-drais, ymosodol dros yr iaith.”
Pa mor bwysig oedd cael sylw’r wasg Brydeinig?
“Roedd e’n amhrisiadwy i gael y sylw ar dudalen flaen pob un papur ar y bore Llun wedyn. Un o’r rhesymau dros hynny oedd bod y trefnwyr wedi gofalu bod yna ffotograffwyr proffesiynol wrth law. Mewn ffordd, roedd y cyhoeddusrwydd yn cyfiawnhau’r peth. Fydden ni byth wedi cael y fath sylw petaen ni ddim ond wedi cael ein gwysio am blastro posteri ar ryw swyddfa bost. Roedd e wedi helpu i sefydlu’r Gymdeithas fel grym ac fel mudiad.”
Beth oedd pwysigrwydd trio cael eich harestio?
“Cael ffurflenni dwyieithog. Dyna’r unig reswm dros y gweithredu yn erbyn y swyddfa bost ac hefyd ar bont Trefechan. Eisiau cael gwysion oedden ni, dyna i gyd. Roedd hawlio gwysion a ffurflenni Cymraeg yn bwysig yn narlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn 1962. Roedd e’n gofyn i ni wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi os nad oedd yn bosibl gwneud hynny drwy’r Gymraeg.”
Fe wnaeth Pont Trefechan hollti barn, on’d do?
“Ar y pryd, wrth gwrs. Roedd yna rywbeth gwallgo am y penderfyniad i gerdded lawr at y Bont o’r Home Cafe a rhwystro traffig De-Gogledd Cymru. Fel rwy’n cofio digwyddiadau’r pnawn, roedd Gwilym Tudur yn un o’r arweinwyr. Ond sai’n credu y buasai’r peth wedi digwydd flwyddyn neu ddwy ynghynt. Roedd ‘na ryw ysbryd heriol yn awyr y cyfnod. Ac wrth gwrs roedd ‘na rwystredigaeth. Roedd bysus wedi dod o Fangor a llefydd eraill a llawer yn teimlo, ‘Does dim lot o bwynt i ni fynd adre nawr heb wneud dim byd o gwbl.’ Ond dim ond wrth edrych yn ol mae modd cyfriawnhau’r peth, oherwydd y sylw a’r impetws roddodd e i’r Gymdeithas fel mudiad newydd torcyfraith, didrais yn ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg.”
Pa mor bwysig oedd torcyfraith?
“Y parodrwydd i weithredu’n anghyfreithlon pan oedd angen — ond yn ddidrais — oedd y peth oedd yn gwahaniaethu’r Gymdeithas oddi wrth fudiadau eraill – a Phlaid Cymru yn arbennig. Yn ddiddorol iawn, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas yng nghynhadledd Plaid Cymru ym Mhontarddulais yn 1962. Ond adwaith yn erbyn dulliau gwleidyddol parchus oedd y Gymdeithas. Roedden ni’n credu bod angen mudiad newydd ymosodol i frwydro dros yr iaith.”
Beth yw pwysigrwydd Trefechan erbyn hyn?
“Bydd protest Pont Trefechan wastad yn aros fel eicon yn ein hanes ni ac mae’n wych bod Cwmni Theatr Cymru er enghraifft wedi creu perfformiad byw mor gofiadwy ar y bont ac yn strydoedd Aberystwyth nol yn 2013. Ond rhaid derbyn bod y frwydr dros statws a ffurflenni ac arwyddion yn symlach na’r brwydrau sy ‘da ni heddiw i achub yr iaith fel iaith fyw, gymunedol. Mae mudiadau iaith mewn sawl gwlad wedi cael yr un profiad. Mae’r cyfnod cynharaf yn gymharol rwydd, cyn wynebu problemau lot mwy dyrys sy’n cael eu heffeithio gan y farchnad rydd, symudiad poblogaeth, pethau fel yna. Roedd y frwydr i ennill sianel Gymraeg yn un fwy anodd ond yn un lwyddiannus yn defnyddio gwahanol ddulliau. Mae ‘da ni frwydrau newydd hefyd. Mae angen achub ein gwlad rhag troi’n fforest er mwyn i awyrennau o Heathrow gael gollwng eu llygredd droson ni. Mae hynny’n effeithio ar yr iaith. Ond y peth pwysig yw bod brwydrau a buddugoliaethau’r gorffennol yn parhau i ysbrydoli.”
Ac mae eich gwraig Enid yn dod o Drefechan…
“Roedd hi’n byw jyst uwchlaw Trefechan yn Ael Dinas. Roedd hi yn y Normal ym Mangor ar y pryd, a daeth hi lawr yn y bws hefyd. Doedd hi ddim ar y bont, ond roedd hi yn y brotest, a sawl un arall o’r Coleg Normal.”