Wrth i Gymdeithas yr Iaith gynnal y rali Nid Yw Cymru Ar Werth ger Pont Trefechan yn Aberystwyth 60 mlynedd ar ôl darlledu darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, mae un o’r rhai fydd yn annerch y dorf wedi bod yn siarad â golwg360.

Mae Tecwyn Ifan yn un o gantorion enwoca’r byd cerddoriaeth Cymraeg ers degawdau bellach, ac yntau wedi mentro i’r byd hwnnw ddiwedd y 1960au pan oedd y protestiadau dros yr iaith yn eu hanterth.

Ac yntau’n dal yn yr ysgol yn Hendy Gwyn Ar Dâf, ffurfiodd ei fand cyntaf, Perlau Taf cyn mynd yn ei flaen i Brifysgol Bangor, lle ffurfiodd ei fand nesaf, Ac Eraill, gyda Cleif Harpwood, Iestyn Garlick a Phil Edwards.

Ar ôl i Ac Eraill ddod i ben yn 1975, aeth Tecwyn Ifan yn ei flaen i fod yn artist unigol llwyddiannus, gan gyhoeddi’r albwm Y Dref Wen yn 1977. Mae honno’n un o’i ddeg albwm ar label Sain hyd yma.

Yn fwyaf diweddar, derbyniodd e’r Wobr Cyfraniad Oes yng Ngwobrau’r Selar yr wythnos hon, a manteisiodd golwg360 ar y cyfle i’w holi am ei yrfa a’r berthynas a fu erioed rhwng ei ganeuon a gwleidyddiaeth Cymru a’r Gymraeg.

 

Llongyfarchiadau ar eich cydnabyddiaeth yng Ngwobrau’r Selar. Ar drothwy’r rali yn Nhrefechan, mae’n deg dweud bod canu a gwleidyddiaeth wedi mynd law yn llaw i chi erioed, on’d do?

“Mae’r negeseuon gwladgarol wedi bod yn eitha’ pwysig i fi ar hyd y blynydde, a gyda chaneuon protest wnes i ddechrau, a dweud y gwir, ’nôl yn y ’70au cynnar.”

 

Beth yw eich atgofion chi o gyfnod Trefechan ar ddechrau’r ’60au felly? Sut gyfnod oedd e’n wleidyddol o safbwynt cerddor?

“Dwi’n credu, yn y cyfnod yna, roedd y rhan fwyaf o’r unigolion a’r grwpiau oedd yn canu yn Gymraeg yn canu yn wleidyddol ac mi oedd y brwydrau a’r ralïau a’r ymgyrchoedd, y Gymdeithas yn arbennig, yn bwydo’r caneuon. Roedden nhw’n rhoi testun ac ysbrydoliaeth i eiriau ac i ganeuon. Yn yr un ffordd, roedd y caneuon yn bwydo’r brwdfrydedd a’r ymgyrchoedd hefyd. Roedd y naill yn helpu’r llall, ac yn dylanwadu ar y llall.

“Roedd pethau’n fwy du a gwyn bryd hynny hefyd, dwi’n credu. Roedd pethau penodol fel arwyddion a ffurflenni Cymraeg, yn enwedig ar y dechrau, a hawliau cyfartal i’r Gymraeg. Roedden nhw’n bethau penodol i ganu amdanyn nhw.

“Mae pethau wedi mynd yn llai amlwg, a dyw e ddim mor rwydd erbyn hyn. Mae yna nifer o frwydrau, mewn ffordd, wedi cael eu hennill, dim bod e’n saff i orffwys ar ein rhwyfau mewn unrhyw ffordd, ond dyw’r brwydrau nawr ddim mor ddu a gwyn a dyw hi ddim mor hawdd sgwennu caneuon pendant, penodol gyda’r brwydrau nawr, ond maen nhw’n frwydrau mae’n rhaid eu hennill nhw.

“Dwi’n credu y byddwn ni’n brwydro fel lleiafrif ieithyddol ac fel cenedl fach. Ry’n ni ar y dibyn, wedi bod, ers blynyddoedd mawr iawn, iawn. Ar y dibyn rydyn ni’n mynd i fod, dwi’n credu, a bydd rhaid i ni, tra ein bod ni, sefyll dros ein hunain ac ymladd dros ein hawliau.”

 

Ymlaen i’r 1970au, sef cyfnod Ac Eraill a sefydlu Adfer, mudiad fu’n brwydro dros gymunedau Cymraeg eu hiaith…

“Cyn bod Adfer wedi cael ei sefydlu, ac ar ôl ei sefydlu, roedd Emyr Llew yn areithio yn aml iawn mewn ralïau ac mi oeddwn i’n cael yr areithiau hynny yn bethau oedd yn tanio’r dychymyg, a dweud y gwir. Ambell i stori, ambell i gerdd, neu ambell i hanesyn oedd e’n sôn amdanyn nhw yn ei areithiau yn tanio’r dychymyg ac mi ysgrifennais i nifer o ganeuon yn y cyfnod yna, ddiwedd y ’60au a dechrau’r ’70au. Caneuon y buodd Ac Eraill yn eu canu nhw a chaneuon bues i’n canu’n hunan ac rwy’n dal i’w canu nhw, a dweud y gwir. Caneuon a gododd yn uniongyrchol o’r pethau roedd Emyr Llew yn eu dweud.

“Mi oeddwn i, pan sefydlwyd mudiad Adfer, yn gweld bod diben a phwrpas penodol i amddiffyn yr ardaloedd Cymraeg. Nid bo nhw’n mynd ar draul ardaloedd eraill, ond bod angen amddiffyn y lleoedd a’r mannau lle’r oedd y Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd yn y gymuned, a bod bodolaeth yr ardaloedd hynny’n rhoi ysgogiad i Gymry mewn ardaloedd eraill i siarad Cymraeg ac i ddysgu Cymraeg.

“Mi oedd e’n gyfnod anturus iawn.”

 

Ydy caneuon protest yr un mor bwerus a pherthnasol yn yr oes sydd ohoni heddiw, felly?

Dwi ddim yn credu bod pethau wedi bod mor ddu a gwyn ac mor amlwg i ganu amdanyn nhw, hyd at yr amser yma nawr lle mae yna fewnfudo a dychryn i’n cymunedau ni oherwydd y prynu tai a’r prisiau’n codi tu hwnt i gyrraedd pobol leol i’w prynu nhw. Mae hwnna’n fygythiad pendant, amlwg iawn ac mae hwnna’n destun canu protest. Ond y gwir amdani yw fod nifer o’r caneuon protest oedd yn cael eu canu yn y ’70au yn eithaf amserol nawr, a dweud y gwir. Mae yna rai o’r brwydrau yma yn dal heb fod wedi’u hennill. Mae yna ganeuon, dwi’n teimlo, sy’n berthnasol o hyd.”

 

Os oes yna frwydrau sydd heb eu hennill eto, pa mor ffyddiog ydych chi y byddwn ni’n eu hennill nhw yn y pen draw?

“Allwn ni ddim dweud, allwn ni? Yr unig beth allwn ni wneud yw ymladd i ennill, ymladd i barhau ac i fyw. Dydyn ni ddim yn ymladd gan feddwl ein bod ni’n mynd i golli a’n bod ni’n mynd i ddod i ben. Rydyn ni’n ymladd yn reddfol am ein heinioes. Mae’n beth greddfol i’w wneud, a dyna fyddwn ni’n ei wneud. Yr unig beth allwn ni ei wneud yw dal ymlaen i ymladd.”

 

Oes yna wersi i’w dysgu heddiw o brotest Pont Trefechan yn 1963, felly, wrth i ni wynebu brwydrau newydd?

“Mae’r brotest ddydd Sadwrn yn cyd-fynd â 60 araith Saunders Lewis, oedd yn ysgogiad i gyfnod hollol newydd. Dim ond trwy ddulliau chwyldro oedd e’n dweud bod y Gymraeg yn mynd i bara. A dwi’n meddwl bod y chwyldro yna wedi digwydd i raddau helaeth iawn gyda sefydlu Cymdeithas yr Iaith. Ac mae yna chwyldro wedi digwydd oherwydd ac yn sgil y Gymdeithas. Dyw brwydro a’r brotest a’r chwyldro ddim yn rhywbeth sy’n gallu cadw i fynd trwy’r amser, bob blwyddyn. Mae yna gyfnodau pan fod yr ysbryd yn fwy cydnaws i godi llais ac i frwydro ac i wneud pethau penodol. Oherwydd hynny, mae yna gyfnod fel hwn yn gyfnod pan bod yna godi ysbryd unwaith eto ymhlith llawer iawn o bobol oherwydd bod yr esgid yn gwasgu. Sawl esgid, a dweud y gwir, yn ieithyddol, yn genedlaethol ac yn ariannol, yn amgylcheddol… Mae’r esgid yn gwasgu mewn lot o lefydd ac mae’n amser pan mae’n rhaid i ni ymladd.”

 

Beth, felly, yw eich neges wleidyddol ar drothwy’r rali yn Nhrefechan?

“Dwi’n credu fydd yna bobol o wahanol lefydd yng Nghymru yn rhan o’r brotest, a byddan nhw’n cynrychioli pobol o wahanol wledydd.

“Mae yna bobol ym mhob man sydd, dros y blynyddoedd a’r canrifoedd os nad dros fil o flynyddoedd, wedi cyfrannu at y frwydr yma. Mae hi wedi bod yn frwydr oesol, a dweud y gwir, dros ein parhad ni a thros yr iaith. Dw i’n credu bod y bobol hynny y byddwn ni yn eu holyniaeth nhw dydd Sadwrn yn y cwmwl tystion sydd gyda ni ac sy’n un gyda ni yn y frwydr yma. Mae’n gyfrifoldeb arnon ni, dwi’n meddwl, i ddal i arddel eu safiadau nhw ac i ddal i ymladd dros yr hawl i fyw yn ein hardaloedd.”

 

Sgyrsiau Trefechan: Robat Gruffudd

Alun Rhys Chivers

Roedd sylfaenydd gwasg Y Lolfa yn un o ddegau o bobol oedd ym mhrotest dorfol gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Chwefror 2, 1963