Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhybuddio am “ddiwylliant Stasi” wrth ymateb i gynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru i annog pobol i ffonio 999 neu’r gwasanaethau cymdeithasol os ydyn nhw’n gweld rhywun yn smacio plentyn.

Bydd y gwaharddiad ar smacio plant yn dod i rym yng Nghymru fis nesaf, ac mae gweinidogion eisoes wedi dweud na fyddai newid yn y gyfraith yn golygu bod rhieni gofalgar yn dod yn droseddwyr.

Mae canllawiau ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn nodi y gallai rhieni sy’n cosbi eu plant yn gorfforol “gael eu cyhuddo o ymosod” ac y gallen nhw gael cofnod troseddol.

Mae hyn yn groes i ddogfen ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, oedd yn dweud eu bod nhw’n “deall yr ofnau”, ond nad yw hynny wedi digwydd mewn gwledydd eraill wrth newid y gyfraith ac roedd Carwyn Jones, prif weinidog Cymru ar y pryd, hefyd wedi ceisio tawelu’r ofnau.

Mae ymgyrchwyr, sy’n gyfuniad o rieni, academyddion a gwleidyddion, yn dadlau ers tro nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r gwaharddiad ar smacio plant.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at gost y gwaharddiad. Mae disgwyl iddo gostio mwy na £3.7m, gan gynnwys bron i £1m i godi lefelau plismona, a chostau’r llys a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Ac maen nhw’n gofidio y gallai newid y gyfraith arwain at roi mwy o bwysau ar yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol, wrth iddyn nhw ymateb i achosion llai difrifol gan esgeuluso’r achosion mwyaf difrifol.

‘Awdurdodyddiaeth’

 “Dydy Llafur ddim fel pe baen nhw’n gallu gadael fynd ar yr awdurdodyddiaeth maen nhw wedi’i datblygu drwy gydol y pandemig,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Tra bod yr angen i gyflwyno rhai cyfyngiadau yn y lle cyntaf yn gwneud synnwyr, mae cyfreithiau eraill o’r pasbortau brechu i’r gwaharddiad ar lyfrau mewn archfarchnadoedd yn dangos eu bod nhw’n hoffi bod yn llawdrwm o ran y gyfraith.

“Mae ymgyrch sy’n annog pobol i adrodd am y rheiny sy’n rhianta’n fwy traddodiadol na’r rhai busneslyd yn y Llywodraeth Lafur yn un sy’n cyflwyno diwylliant Stasi i Gymru.

“Bydd y Llywodraeth Lafur yn canfod eu bod nhw wedi cyflwyno cyfraith y bydd nifer, yn syml iawn, yn ei hanwybyddu, sy’n anodd ei gorfodi, ac a allai glymu’r gwasanaethau cymdeithasol mewn achosion dibwys yn hytrach na materion difrifol.

“Rwy’n annog y Llywodraeth Lafur i ailfeddwl ar frys am yr ymgyrch ac i roi gwybod i rieni am y gyfraith newydd yn hytrach nag annog pobol i adrodd am eu cyd-ddyn am rianta’u plant fel y maen nhw’n gweld bod angen.”

‘Canllawiau’n mynd yn groes i addewidion’

Yn ôl Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd oedd yn gwrthwynebu’r gwaharddiad cyn yr etholiad diwethaf, mae’r gwaharddiad yn mynd yn groes i addewidion gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae’n dweud bod y gwaharddiad yn “ddiangen”.

“Mae gwneud cythreuliaid o famau a thadau sy’n defnyddio smac achlysurol i ddisgyblu eu plant yn anghywir, yn syml iawn, a gallai annog pobol i adrodd amdanyn nhw wrth eu gwasanaethau cymdeithasol neu heddlu lleol gael canlyniadau ofnadwy i deuluoedd.

“Mae rhianta yn ddigon anodd fel y mae hi, dylen ni fod yn annog a chefnogi rhieni, nid gwneud troseddwyr ohonyn nhw.

“Mae plismyn a gweithwyr cymdeithasol yn ddigon prysur fel y mae hi, dylen nhw fod yn gallu canolbwyntio’u hegni ar fynd i’r afael ag achosion go iawn o gam-drin plant yn hytrach na chael tynnu eu sylw gan yr hyn sy’n debygol o ddod yn filoedd o adroddiadau diangen.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.