Mae llyfr sydd newydd gael ei gyhoeddi yn datgelu dylanwad Cristnogaeth ar hanes a hunaniaeth yng Nghymru.
Dr David Ceri Jones o Brifysgol Aberystwyth yw cyd-awdur y gyfrol A History of Christianity in Wales, sy’n olrhain Cristnogaeth yng Nghymru yng nghyfnod y Rhufeiniad hyd at heddiw, ac mae’n tynnu ar arbenigedd pedwar o haneswyr sy’n arbenigo mewn Cristnogaeth, sef David Ceri Jones, Barry J. Lewis, Madeleine Gray a D. Densil Morgan.
Mae hefyd yn cynnwys rhagair gan Rowan Williams, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint, ac mae wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ar gyfer cynulleidfa eang o bobol.
Mae’n mynd i’r afael â newidiadau a heriau sydd wedi cael effaith ar Gristnogaeth yng Nghymru dros y canrifoedd, a’r ffordd mae Cristnogion wedi addasu a darganfod ffyrdd newydd o addoli.
Mae hanner cynta’r gyfrol yn edrych ar y cyfnod cyn y Diwygiad, o’r Rhufeiniaid i’r Llychlynwyr, ad-drefnu’r eglwys yng nghyfnod y Normaniaid ac effaith y Pla ar yr eglwys yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae’r ail hanner yn canolbwyntio ar ailadeiladu eglwysi yng Nghymru yn niwedd yr Oesoedd Canol, effaith y Diwygiad, arwyddocâd y Beibl yn Gymraeg, adfywiad efengylaidd y ddeunawfed ganrif a dechreuadau Anghydffurfiaeth.
Mae’n canolbwyntio wedyn ar effaith rhyfeloedd, sefydlu’r Eglwys yng Nghymru, gostyngiad yn nifer y bobol oedd yn mynd i’r eglwys yn niwedd yr ugeinfed ganrif, a’r pandemig a’i ddylanwad ar addoli yng Nghymru gan gynnwys technoleg fodern.
‘Araf lithro o’r ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfoes’
“Mae lle a rôl Cristnogaeth yn hanes Cymru yn araf lithro o’r ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfoes,” meddai Dr David Ceri Jones, Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Ac eto, ble bynnag yr edrychwch chi yng Nghymru fe welwch arwyddion o bresenoldeb Cristnogol a fu unwaith yn hollbresennol – enwau lleoedd Beiblaidd, tirwedd sy’n frith o eglwysi, capeli, croesau a safleoedd sanctaidd, a hyd yn oed y caneuon sy’n cael eu canu gan gefnogwyr rygbi yn stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
“Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr hwn yn rhoi gwerthfawrogiad newydd i ddarllenwyr o’r ffyrdd y mae Cristnogaeth wedi llunio hanes Cymru ac wedi diffinio hunaniaeth Gymreig dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.”