Yn naturiol, y sefyllfa yn yr Wcráin wnaeth ddominyddu Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Chwefror 23).

Bu Boris Johnson yn brolio am “ddeddfwriaeth bellgyrhaeddol” y Llywodraeth wrth gyflwyno sancsiynau ar Rwsia yn ogystal â busnesau ac unigolion sy’n gysylltiedig â’r Kremlin, ond mae llawer o’r farn nad ydy’r Llywodraeth yn mynd yn ddigon pell.

Dechreuodd y Prif Weinidog drwy ddweud wrth aelodau seneddol y bydd y Deyrnas Unedig yn darparu pecyn pellach o gymorth milwrol i’r Wcráin “yn sgil ymddygiad bygythiol Rwsia”.

‘Os nad nawr, pryd?’

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn awyddus i weld y Llywodraeth yn gweithredu ar frys i gyflwyno rhagor o sancsiynau yn erbyn Rwsia.

Dywed fod Boris Johnson wedi addo y byddai’n rhyddhau pecyn llawn o sancsiynau pe bai ymosodiad.

“Os nad nawr, pryd?” meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson fod 275 o unigolion wedi cael eu cosbi’n barod, a bod “mwy i ddod”.

Aeth yn ei flaen i honni bod y Deyrnas Unedig eisoes “ar y blaen i neb arall” o ran cyflwyno sancsiynau.

“Mae’n bwysig ar ôl yr ergyd gyntaf hon ein bod yn gweithio gyda’n ffrindiau i wasgu (Valdimir Putin).

“Ei wasgu yn Llundain, yn Paris ac Efrog Newydd ar yr un pryd.

“Mae undod yn hollol hanfodol.”

Gofyn i Ofcom adolygu trwydded Russia Today

Dywed Syr Keir Starmer fod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig wneud mwy i ymladd yn erbyn ymgyrch newyddion ffug Putin.

Bu’n galw am wahardd Russia Today rhag darlledu yn y Deyrnas Unedig.

“A fydd y Prif Weinidog nawr yn gofyn i Ofcom adolygu eu trwydded?” holodd.

Yn ôl Boris Johnson, mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Nadine Dorries eisoes wedi gofyn i Ofcom adolygu’r mater hwnnw.

Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog ein bod “yn byw mewn democratiaeth ac rydym yn byw mewn gwlad sy’n credu mewn rhyddid i’r wasg”.

“Credaf ei bod yn bwysig inni ei adael i fyny i Ofcom yn hytrach nag i wleidyddion benderfynu pa sefydliadau cyfryngau i’w gwahardd,” meddai.

“Dyna mae Rwsia’n ei wneud.”

Eglurodd Syr Keir Starmer mai gofyn i’r Llywodraeth ofyn i Ofcom wnaeth o, nid gofyn i’r Llywodraeth ei wahardd.

Y Deyrnas Unedig yn methu â mynd i’r afael â llygredd Rwsiaidd

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, wedi cyhuddo’r Llywodraeth yn San Steffan o beidio â gwneud digon i fynd i’r afael ag arian llygredig o Rwsia sy’n llifo i’r wlad.

Honnodd fod llywodraethau Ceidwadol wedi caniatáu i “arian budr o Rwsia redeg drwy Lundain ers blynyddoedd”.

Fe gyhuddodd o’r Torïaid o godi £2.3m gan “oligarchiaid o Rwsia”, a gofynnodd i’r Prif Weinidog a fyddai’r arian yn cael ei ddychwelyd.

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud ei bod yn bwysig i’r Tŷ ddeall nad yw’r Ceidwadwyr “yn codi arian o oligarchiaid Rwsia”.

“Rydym yn codi arian gan bobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio ar gofrestr buddiannau’r Deyrnas Unedig,” meddai.

 

Dadansoddiad: Huw Bebb, Gohebydd Seneddol

Ar ôl wythnosau o weld Syr Keir Starmer yn mwynhau ei hun yn y siambr tra roedd Boris Johnson yn wynebu sgandal ar ôl sgandal, roedd hi’n od gweld y Prif Weinidog ar y droed flaen, tra bod arweinydd yr wrthblaid yn galw am undod yn y Tŷ yn sgil yr argyfwng yn nwyrain Ewrop.

Mae’n debyg y bydd hyn yn achosi cryn dipyn o densiwn ar feinciau cefn y Blaid Lafur. Wedi’r cwbl, mae sawl un ohonyn nhw o’r farn nad yw sancsiynau’r Llywodraeth yn mynd hanner ddigon pell.

Mewn colofn yn y Guardian ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 22), dywedodd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, nad oedden nhw’n sancsiynau “ystyrlon”. “Dyma’r lleiafswm o’r hyn y dylem fod wedi’i wneud wythnosau’n ôl, pan gyhoeddodd Putin nad oedd yn parchu uniondeb tiriogaethol yr Wcráin,” meddai. “Nid y banciau Rwsiaidd a roddodd Boris Johnson ar y rhestr sancsiynau heddiw yw’r prif chwaraewyr: maen nhw’n cyfateb i arian mân yn economi Rwsia. Mae’r tri unigolyn gafodd eu henwi ganddo eisoes wedi cael eu cosbi yn yr Unol Daleithiau ers 2018. Felly, rydyn ni’n cosbi’r pysgod bychain ond yn caniatáu i’r siarcod nofio’n rhydd.”

Ac yn wir, mae yno gwestiynau ynglyn â pha mor barod yw’r Llywodraeth i gyflwyno sancsiynau fydd wir yn taro poced Putin a’i gyfeillion. Mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau yn cydlynu eu sancsiynau. Pam, felly, fod y Deyrnas Unedig yn gweithredu ar ei liwt ei hun tra hefyd yn galw am “undod”? Onid yw hynny yn eu galluogi i gyflwyno sancsiynau gwannach na gwledydd eraill, tra’n brolio am “gyflwyno’r pecyn mwyaf o sancsiynau y mae’r wlad hon erioed wedi’u cynhyrchu”?

Mae Boris Johnson hefyd wedi cyfaddef y bydd y mesurau yn erbyn troseddau economaidd a gosod sancsiynau ar Rwsia yn cymryd misoedd i’w cyflwyno. Mae hyn oll yn codi’r cwestiwn, ydy’r Blaid Geidwadol wir yn barod i roi stop ar yr arian sy’n llifo o Rwsia i Lundain?