Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud bod y rhagolygon ar gyfer tlodi tanwydd o fis Ebrill ymlaen yn “iasol”.
Daw hyn ar ôl i’r elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru rybuddio y bydd 280,000 o aelwydydd yng Nghymru yn “cael eu llorio” gan dlodi tanwydd pan fydd biliau’n codi ymhen llai na deufis.
Wrth siarad ag ITV News, dywedodd Ben Saltmarsh o’r elusen y gallai’r cynnydd gwerth £100m mewn costau “achosi marwolaethau cynamserol” i rai unigolion.
Mae Jane Dodds yn galw am fwy o gefnogaeth i’r rheiny fydd yn ei chael hi’n anodd aros yn gynnes oherwydd y cynnydd.
‘Baich enfawr’
Fe fydd y 200,000 o aelwydydd sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu yng Nghymru yn gweld eu biliau’n codi o £700 y flwyddyn o fis Ebrill, yn ôl ymchwil gan Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru.
Mae Jane Dodds, yr Aelod o’r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn pryderu am y rhai sy’n byw yn yr ardal wledig honno.
“Mae’r rhagolygon yn wirioneddol iasol,” meddai.
“Rwy’n cynrychioli rhanbarth sydd eisoes â lefelau uchel dros ben o dlodi tanwydd.
“Yn ôl ystadegau cyn y pandemig, roedd lefelau tlodi tanwydd yng Ngwynedd yn 23%, Ceredigion yn 21%, a Phowys yn 17%. Roedd y ffigyrau hyn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd Cymreig o 12% ar y pryd.
“O ystyried y cynnydd sylweddol mewn costau ynni, sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig fel Ceredigion fwyaf, mae’n debygol iawn bod tlodi tanwydd yn fy rhanbarth i bellach wedi cyrraedd lefelau endemig.
“Gallai hyn waethygu unwaith eto wrth ystyried y tensiynau parhaus gyda Rwsia yn gwthio prisiau olew a nwy byd-eang i fyny.
“Mae hyn nid yn unig yn rhoi baich enfawr ar gyllid fy etholwyr, gan orfodi llawer i ddewis rhwng gwresogi a bwyta, ond mae hefyd yn gosod baich enfawr ar eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol.”
Mwy o gymorth
Wrth ystyried y gallai’r cynnydd achosi marwolaeth rhai unigolion, mae Jane Dodds yn credu bod angen i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wneud mwy i gefnogi aelwydydd.
“Rydyn ni’n gwybod fod rhyw 10% o’r marwolaethau ychwanegol sy’n digwydd yn y gaeaf yn y Deyrnas Unedig yn uniongyrchol oherwydd tlodi tanwydd,” meddai.
“Mae 21.5% o’r marwolaethau ychwanegol sy’n digwydd yn ystod y gaeaf yn digwydd yn y 25% o’r cartrefi oeraf.
“Er fy mod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cymorth, byddwn yn eu hannog i ymchwilio i ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n cael eu heffeithio arnynt waethaf.
“Rwyf hefyd yn parhau i alw ar Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i ddyblu ac ehangu’r Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes a dyblu’r Taliadau Tanwydd Gaeaf i amddiffyn pobol fregus y gaeaf hwn.
“Gallai hynny gael ei ariannu drwy ‘Dreth Robin Hood’ ar yr elw uchaf erioed sydd wedi ei wneud gan gwmnïau nwy ac olew byd-eang.
“Yn y tymor hwy, mae angen i’r Blaid Lafur [yng Nghymru] gyflymu rhaglenni sydd wedi’u cynllunio i insiwleiddio cartrefi’n well.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei holl dargedau tlodi tanwydd ers 2011. Rhaid iddi wneud yn well.”