Roedd peilot yr awyren oedd yn cludo’r pêl-droediwr Emiliano Sala adeg ei farwolaeth wedi cael ei wahardd rhag hedfan y cerbyd gan y perchennog fisoedd ynghynt, ar ôl iddo fe fynd i helynt â’r awdurdodau hedfan.
Bu farw’r Archentwr Sala a’r peilot David Ibbotson, 59, pan blymiodd y cerbyd i’r Sianel ym mis Ionawr 2019.
Roedd Sala, oedd yn 28 oed, yn cael ei gludo o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd i ymuno â’r Adar Gleision am £15m.
Clywodd y cwest i’w farwolaeth fod yr Awdurdod Hedfan Sifil wedi cyhoeddi dau hysbysiad o dorri rheolau awyr yn erbyn y peilot chwe mis cyn y gwrthdrawiad, ond ei fod e wedi parhau i hedfan heb yn wybod i berchennog yr awyren.
Prynodd Fay Keely yr awyren Malibu Piper yn Awst 2015 ac er mai cwmni Cool Flourish oedd yn berchen y cerbyd, roedd Southern Aircraft Consultancy wedi’u cofrestru i gadw’r cerbyd, gyda David Henderson yn gyfrifol am ei weithredu.
Doedd Southern Aircraft Consultancy ddim yn ymwybodol o ran David Henderson yng ngweithrediad yr awyren, gan gredu mai Fay Keely oedd yn gwbl gyfrifol amdani.
Ond dywedodd Fay Keely wrth y cwest i farwolaeth Emiliano Sala mai Henderson, oedd yn ffrind i’w thad, oedd yn rheoli’r awyren o ddydd i ddydd, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw a chyflogi peilot ar gyfer hediadau.
Dau ddigwyddiad
Heb gymorth David Henderson, meddai Fay Keely, fyddai hi ddim wedi bod yn bosib iddi brynu’r awyren.
Ond daeth hi i wybod am ddau ddigwyddiad o dorri rheolau awyr yn ystod haf 2018, a dywedodd hi wrth David Henderson am beidio â chyflogi David Ibbotson eto.
Dywedodd hi nad oedd ganddi fawr o ffydd yn “ei allu i ofalu am yr awyren”, a’i bod hi “wedi bod yn glir” nad oedd hi eisiau iddo fe hedfan yr awyren eto.
Ond clywodd hi’n ddiweddarach gan David Henderson fod y peilot wedi hedfan gyda’i chwaer rai wythnosau’n ddiweddarach, a dywedodd hi wrth y cwest nad oedd hi wedi mynegi barn y naill ffordd na’r llall.
Dywedodd Fay Keely nad oedd hi’n ymwybodol o’r hediadau rhwng Nantes a Chaerdydd ar Ionawr 19-21 na chwaith pwy oedd y peilot.
Gwenwyn
Mae’r cwest eisoes wedi clywed bod Emiliano Sala wedi’i wenwyno gan garbon monocsid ar yr awyren, a’i fod e wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i frest ar ôl i’r awyren fynd i drafferthion.
Gadawodd yr awyren faes awyr Nantes am 7.15yh ar Ionawr 21, ond collodd y peilot gysylltiad radar awyr yn ddiweddarach wrth hedfan dros Ynys y Garn (Guernsey).
Cafwyd hyd i’r awyren ar wely’r môr ar Chwefror 3, ac roedd corff Emiliano Sala yng ngweddillion yr awyren y daethpwyd o hyd iddyn nhw dridiau’n ddiweddarach.
Mae’r cwest yn cael ei gynnal yn Bournemouth, ac mae disgwyl iddo bara hyd at fis.