Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi ei garfan i herio Lloegr yn Twickenham brynhawn dydd Sadwrn (26 Chwefror).
Bydd Taulupe Faletau yn cychwyn am y tro cyntaf ers 11 mis, ar ôl i anaf i’w ffêr ei gadw allan o’r gemau cyntaf yn erbyn Iwerddon a’r Alban, yn ogystal â chyfres yr Hydref.
Fe chwaraeodd yr wythwr i Gaerfaddon yn erbyn Wasps a Chaerlyr dros y penwythnosau diwethaf, a phrofi ei ffitrwydd i’r tîm hyfforddi cenedlaethol.
Fe fydd Faletau yn cymryd lle Jac Morgan yn y rheng ôl, gyda Ross Moriarty yn symud i safle’r blaenasgellwr i wneud lle iddo.
Newid ar yr asgell
Roedd hi eisoes yn hysbys y byddai Louis Rees-Zammit yn absennol o’r gêm oherwydd bod yr anaf a gafodd i’w ffêr cyn y gêm yn erbyn Iwerddon wedi effeithio ar ei berfformiad yn y ddwy gêm gyntaf.
Bydd Josh Adams, a gollodd y gêm yn erbyn Yr Alban, yn cymryd ei le ar yr asgell, ac fe fydd Alex Cuthbert yn ennill ei 50fed cap ar yr asgell arall.
Nick Tompkins ac Owen Watkin fydd y bartneriaeth yn y canol unwaith eto, tra bydd Gareth Anscombe, Kieran Hardy, a Leon Brown yn dychwelyd i’r fainc.
Cymraeg o wefusau’r Saeson?
Y dewis mwyaf nodedig i dîm Lloegr yw Harry Randall yn safle’r mewnwr, gyda Ben Youngs – sydd ar fin torri record capiau Lloegr – ar y fainc.
Cafodd Randall ei fagu yn ardal Dyffryn Aman, ac mae wedi chwarae i dîm dan-16 Cymru.
Yn eu gêm yn erbyn yr Eidalwyr, mae’n debyg ei fod e a rhif naw’r gwrthwynebwyr, Stephen Varney, ill dau’n medru siarad y Gymraeg.
Bydd Courtney Lawes yn dychwelyd i’r tîm sy’n dechrau fel capten, tra bod Kyle Sinckler a Luke Cowan-Dickie hefyd yn ôl yn y pac sy’n cychwyn.
Tîm Cymru’n llawn
Cymru: 15 Liam Williams, 14 Alex Cuthbert, 13 Owen Watkin, 12 Nick Tompkins, 11 Josh Adams, 10 Dan Biggar (capten), 9 Tomos Williams; 1 Wyn Jones, 2 Ryan Elias, 3 Tomas Francis, 4 Will Rowlands, 5 Adam Beard, 6 Ross Moriarty, 7 Taine Basham, 8 Taulupe
Faletau
Y Fainc
: 16 Dewi Lake, 17 Gareth Thomas, 18 Leon Brown, 19 Seb Davies, 20 Jac Morgan, 21 Kieran Hardy, 22 Gareth Anscombe, 23 Jonathan Davies