Mae chwaraewraig rygbi rhyngwladol wedi dweud mai crys coch fydd hi’n gwisgo dros y penwythnos yn hytrach na chrys gwyn.
Er iddi gael ei geni yng Nghaerdydd, mae Megan Jones yn cynrychioli Lloegr ar lefel rhyngwladol, gan fod ei mam yn dod o Fryste.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, mae Megan Jones felly’n rhugl yn y Gymraeg – ac wedi gwneud cyfweliad ar raglen Jonathan cyn y gêm fawr.
‘Nes i fynd dros y bont a never looked back’
Fe chwaraeodd Megan am y tro cyntaf i Loegr yn 2015, gan chwarae yn gêm derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 2017, pan gollodd y tîm i Seland Newydd.
Esboniodd pam y dewisodd hi chwarae i Loegr.
“Dyna’r golden question mae pawb yn ei ofyn,” meddai.
“Yn tyfu lan, chwarae i Gymru oedd fy mreuddwyd i. Ond mae fy mam o Fryste ac oedd gen i ddau opsiwn, ac fe wnaeth fy nhad ddweud ‘Meg, ti’n gallu chwarae i Loegr hefyd.’
“Roedd y cyfleoedd yna i fi yn well nag oedd yng Nghymru ar y pryd, ac wedyn fe wnes i fynd dros y bont a never looked back, i fod yn onest.”
Profiad anhygoel
Mae hi wedi cynrychioli Lloegr mewn cystadlaethau saith bob ochr hefyd, gan ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018.
Ond methodd hi ag ennill medal wrth gyd-gapteinio tîm saith bob ochr Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Nhokyo y llynedd.
Er hynny, dywedodd hi fod y profiad o chwarae yn y gemau wedi bod yn “anhygoel.”
“Mae’n rhywbeth nes i freuddwydio am pan oeddwn i’n ifanc, mynd i’r Olympics,” meddai.
“Dyna yw’r pinacl o chwarae rygbi saith bob ochr. Mae e’n rhywbeth anhygoel ac i fod yn co-captain gyda ffrind gorau fi [Abbie Brown, chwaraewraig Lloegr], na’i gofio hynny am byth.”
Chwarae gyda’r gelyn
Dydy hi ddim yn arferol o gwbl i Gymry chwarae dros Loegr, ond mae llond llaw o chwaraewyr wedi gwneud hynny.
Yn y gorffennol, mae Dewi Morris, a gafodd ei eni yng Nghrughywel, a Nigel Redman, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi gwisgo’r rhosyn coch yn erbyn Cymru.
Roedd un o arwyr Cwpan y Byd 2003, Josh Lewsey, yn fab i ddau riant Cymraeg, ond dewisodd chwarae i Loegr gan mai nhw oedd y cyntaf i’w ddewis.
Yn ddiweddar, mae’r brodyr Vunipola, Billy a Mako, wedi ymddangos sawl gwaith mewn gwyn, ond fe dreulion nhw ychydig o’u plentyndod yn y Cymoedd.
Ac mae Harry Randall, sy’n dechrau yn safle’r mewnwr i Loegr dros y penwythnos, yn siaradwr Cymraeg, mae’n debyg, ar ôl cael ei fagu yn Nyffryn Aman.
Dywed Megan Jones ei bod hi’n cael ei thrin fel ychydig bach yn wahanol pan oedd hi efo’r garfan yn ifanc.
“Pan oeddwn i’n 17, 18, roedd pawb ishe dweud rhywbeth,” meddai.
“Fi’n cofio gwisgo crys Cymru i un o’r camps Lloegr, a wnaethon nhw ddweud ‘na, ti methu gwisgo hynna’, felly nes i ddweud, ‘ok, falle na’i stopio nawr!
“Dwi dal yn cael stic nawr am accent fi.
“Dwi’n dod o Gaerdydd a pryd fi’n dod gartref mae pawb yn dweud wrtha fi, ti’n sowndio’n Saesneg, ond pryd fi’n mynd nôl, maen nhw’n deud, ‘ti mor Welsh!’
“Dw i methu ennill!”
Y cwestiwn mawr…
I gloi, fe fentrodd Jonathan Davies ofyn y cwestiwn mwyaf iddi, sef pwy fyddai hi’n cefnogi dros y penwythnos.
“Dw i’n mynd i golli job fi [am ddweud hyn], ond Cymru,” meddai Megan.
- Bydd rhaglen Jonathan ar S4C heno (24 Chwefror) am 9yh, a nos Sadwrn (26 Chwefror) am 10yh.