Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn disgwyl gweld gwelliant yn erbyn Lloegr yn Twickenham fory (dydd Sadwrn, Chwefror 26).

Mae Cymru wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf yng nghartre’r Saeson yn y Chwe Gwlad, a byddai colled eto eleni fwy neu lai yn dod â’u gobeithion o ennill y bencampwriaeth i ben ar ôl iddyn nhw golli eu gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon.

“Po fwyaf [o amser] sydd gyda chi gyda’r chwaraewyr, fe ddylai pethau wella,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn cyflwyno pethau newydd bob wythnos, ond rhyw fân newidiadau fan hyn a fan draw ac rydyn ni’n disgwyl gwelliant.

“Yr her fawr i ni yw meddu ar yr un agwedd a’r un parodrwydd i daflu’n hunain o amgylch y parc fel y gwnaethon ni yn erbyn yr Alban o flaen torf o 70,000 o bobol a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gefnogwyr Cymru, a gwneud hynny oddi cartref mewn awgyrgylch gelyniaethus gyda chefnogwyr Lloegr yn bennaf.”

Cystadlu

Yn ôl Wayne Pivac, un o’r heriau mwyaf fydd gallu cystadlu yn erbyn pac Lloegr, gan fod eu blaenwyr mor gryf.

“Mae’n bac mawr, a mater o sicrhau ein bod ni’n ddisgybledig [yw e] a ddim yn rhoi gormod o ffyrdd i mewn iddyn nhw gyda’u lein, ac yn amlwg mae eu sgrym nhw’n eithaf da,” meddai.

“Mae’n her fawr i ni yn y blaen, ac mae angen i ni gynnal hynny ar draws y pymtheg.

“Yn y gêm yn erbyn Iwerddon, chawson ni fawr o feddiant a phan gawson ni, roedden ni dan bwysau oherwydd doedden ni ddim yn ennill yn y gwrthdaro a doedd ein disgyblaeth ddim wedi cefnogi hynny.

“Roedd hi bob amser yn mynd i fod yn ddiwrnod anodd, ond dw i’n credu bod yna welliannau yn erbyn yr Alban.”

Chwaraewyr yng Nghymru?

Dydy Cymru ddim wedi ennill yn y Chwe Gwlad yn Twickenham ers 2012, er iddyn nhw guro’r Saeson yno yng Nghwpan y Byd 2015.

Ers y gêm yn erbyn yr Alban, mae’r chwaraewyr sy’n chwarae i glybiau yn Lloegr wedi dychwelyd i’r clybiau hynny.

Er bod Wayne Pivac yn dweud y byddai’n well ganddo pe bai ei holl chwaraewyr yng Nghymru ac ar gael i’r tîm cenedlaethol, mae’n dweud ei fod e’n barod i weithio gyda’r chwaraewyr sydd ganddo fe wrth law.

“Mae’r ymarferion yn newid rywfaint oherwydd dydy’r un personél ddim gyda chi, ond mae rhywfaint o’r dewisiadau’n seiliedig ar berfformiadau.

“Ie, y sefyllfa ddelfrydol yw fod gennych chi eich carfan lawn ar gyfer y twrnament cyfan.

“Ond rydyn ni’n sylweddoli nad yw hynny bob amser yn wir, ac rydyn ni’n gwybod hynny wrth ddewis y garfan ar ddechrau’r gystadleuaeth.

“Rydyn ni’n ystyried y ffactorau hynny.”

 

Tîm Cymru i herio Lloegr: Faletau’n dychwelyd, a Rees-Zammit yn colli ei le

Bydd carfan Wayne Pivac yn teithio i Twickenham brynhawn Sadwrn (26 Chwefror), gyda’r gic gyntaf am 16:45

Y Chwe Gwlad “yno i’w hennill”

Alun Rhys Chivers

“Buddugoliaeth yn Twickenham? Mae hi wastad yn hyfryd curo Lloegr”