Pe bai’r Cymry yn dod o Dwickenham gyda buddugoliaeth, mi fyddai cadw gafael ar eu coron yn bosibilrwydd, meddai un o gyflwynwyr Scrum V…
Mae Catrin Heledd, gohebydd chwaraeon BBC Cymru a chyflwynydd Scrum V, yn teimlo y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o fewn cyrraedd Cymru pe baen nhw’n curo Lloegr yn Twickenham amser te bnawn Sadwrn.
Dechrau digon cymysg gafodd tîm Wayne Pivac hyd yn hyn, gyda’r fuddugoliaeth o 20-17 dros yr Alban yn dod ar ôl y golled drom o 29-7 yn erbyn y Gwyddelod yn Nulyn yn rownd gynta’r gystadleuaeth. Mae’n golygu bod Cymru ar waelod y tabl ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn yr Hen Elyn, tra bod y Saeson yn dynn ar sodlau Ffrainc ar y brig.
“Roedd e’n ymateb, ac roedd eisiau ymateb,” meddai Catrin Heledd am y fuddugoliaeth dros yr Albanwyr. “Roedd y chwaraewyr wedi cael eu beirniadu gan y Wasg ac wedi’u beirniadu gymaint, mae’n siŵr, yn y sesiwn adolygu gyda hyfforddwyr Cymru yn yr wythnos wedi’r gêm.
“Roedd angen ymateb a gaethon ni hynny, yr elfen gorfforol oedd ddim yn y gêm gyntaf [yn Nulyn]. Hefyd yn amddiffynnol, ychydig yn fwy disgybledig, felly roedd yr elfennau yna i gyd yn well yn y gêm yn erbyn yr Alban. Roedd yna dân ym moliau’r chwaraewyr yn y Principality. Roedden nhw eisiau profi’r rheiny oedd wedi bod mor feirniadol yn anghywir. Ydy e’n mynd i fod yn ddigon cyn mynd i Twickenham? Wel, mae’n gam i’r cyfeiriad cywir yn bendant, ond dyw pob gêm ddim yn gallu bod yn ymateb i’r gêm cyn hynny.
“Mae eisiau adeiladu, ac fel arfer mae Cymru’n eitha’ da am adeiladu mewn cystadlaethau a phencampwriaethau fel hyn. Ond mae Twickenham yn lle anodd iawn i fynd iddo fe, ac mae’r dorf yn mynd i fod yn gyffrous iawn i gael bod ’nôl yno. Ond Cymru v Lloegr yw e, felly mae unrhyw beth yn gallu digwydd, fel ry’n ni’n gwybod. Ry’n ni wedi cael canlyniadau hanesyddol yn y gorffennol pan y’n ni’n mynd i HQ. Does dim angen cyffroi’r chwaraewyr cyn Cymru v Lloegr, mae’r cyffro yno’n barod achos bod y gêm yn un mor fawr.”
Hwb o gael Faletau yn ôl
Ddyddiau’n unig cyn y gêm fawr, daeth hwb i Gymru gyda’r newyddion bod Taulupe Faletau ar gael i chwarae ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf ers taith y Llewod yr haf diwethaf. Mae e wedi gwella o anaf i’w goes, gan ddychwelyd i dîm Caerfaddon i brofi’i ffitrwydd a gobeithio cael hawlio’r crys rhif wyth yn ôl. Ond a fydd hi’n rhy gynnar i’w daflu i mewn i gêm mor fawr?
“Mae’n mynd i fod yn ddiddorol gweld beth mae Wayne Pivac yn gwneud o ran Faletau,” meddai Catrin Heledd ddechrau’r wythnos. “Yn amlwg, mae Caerfaddon yn credu bod e’n ddigon da, mae e wedi sgorio cais yn un o’r ddwy gêm ers bod ’nôl. Mae e mor gorfforol, on’d yw e, ac mae e’n un o’r chwaraewyr hynny bron does dim angen rhediad hir o gemau arno fe i brofi’i ffitrwydd cyn bod e’n dod ’nôl. Mae e’n gallu dod ’nôl mewn i’r pac yna â digon o dân yn ei fol e.
“Mae’n mynd i fod yn benderfyniad mawr i Pivac o ran y rheng ôl yna. Ydy e’n taflu Faletau yn syth mewn? Neu ydy e’n ei gadw fe ar y fainc? Dw i ddim yn siŵr iawn beth mae e’n mynd i wneud! Ond mae e mor gorfforol, mae’n anodd iawn gadael rhywun fel Faletau ma’s.”
Ddechrau’r wythnos doedd Catrin ddim yn disgwyl newidiadau yn y pum blaen, a byddai hynny felly yn golygu bod Wyn Jones a Tomas Francis y naill ochr i Ryan Elias yn y rheng flaen, gyda Will Rowlands yn gwmni i Adam Beard yn yr ail reng.
“Fi’n meddwl fydd e’n gwobrwyo’r blaenwyr, yn enwedig y pum blaen, achos fe wnaethon nhw gamu lan yn ystod y gêm yn erbyn yr Alban. Roedd y chwarae gosod yn well, lot gwell, 100% yn well a dweud y gwir, yn enwedig Ryan Elias yn y lein.”
Ond mae marc cwestiwn ynghylch sawl safle arall ar y cae, meddai.
“Efallai bod eisiau i ni edrych ar y canolwyr, a gweld sut maen nhw’n gallu helpu Biggar â’i gêm e. Oes eisiau bod ychydig yn fwy creadigol gyda’r canolwyr sydd gyda ni er mwyn iddyn nhw allu rhoi’r elfen greadigol i Biggar? Fi’n meddwl y gwnaeth y blaenwyr eu gwaith yn dda yn erbyn yr Alban ac yn hynny o beth, roedd mwy o blatfform gyda Dan Biggar. Dyna beth sy’n poeni fi o ran Cymru, yr elfen ymosodol yna. Rydyn ni wedi cael un cais yn dod o sgarmes symudol, cais arall o ryng-gipiad. Ble mae’r elfen greadigol yna? Mae e’n broblem, ac mae eisiau edrych ar y canol ac mae hwnna’n benderfyniad arall i Pivac. Beth mae e’n mynd i wneud o ran Owen Watkin a Nick Tompkins? Ydy Jonathan Davies yn dod i mewn? Neu ydy’r elfen greadigol yna’n mynd i ddod gan Uilisi Halaholo, sydd eto allan yn profi’i ffitrwydd e achos bod e ddim wedi gallu chwarae dros yr wythnosau diwethaf a ddim wedi gallu chwarae nos Wener fel oedd e fod i Gaerdydd.”
Marc cwestiwn am dîm Lloegr
Os oes marc cwestiwn am nifer o safleoedd yn nhîm Cymru, mae digon ohonyn nhw wrth edrych ar Loegr. Tîm digon arbrofol gafodd ei ddewis gan Eddie Jones ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal. Ond gyda thîm mwy profiadol y Saeson eisoes wedi colli yn erbyn yr Alban, a fydd y prif hyfforddwr yn osgoi’r demtasiwn o droi’n ôl at yr hen wynebau?
“Fi’n meddwl bod Lloegr ar hyn o bryd yn dîm dydyn ni ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw yn y cyd-destun bo nhw’n dîm newydd. Maen nhw mewn ychydig bach o chwyldro. Mae yna hen bennau ddim ar gael, chwaraewyr a phartneriaethau newydd yn datblygu, felly dydyn ni ddim cweit yn gwybod lle mae Lloegr arni ar hyn o bryd, yn amlwg yn colli yn erbyn yr Alban ond yn curo’r Eidal, ond dyw hwnna ddim wastad yn llinyn mesur o ba mor dda yw tîm yr Eidal.”
Gyda’r Alban wedi manteisio ar amddiffyn gwan y Saeson ar adegau, a oes yna le i Gymru ecsbloetio’r gwendidau ac a yw’n dangos beth mae modd ei gyflawni pe bai amddiffyn y crysau cochion yn aros yn gadarn?
“Ry’n ni’n meddwl am yr Alban fel tîm ymosodol yn fwy na thîm amddiffynnol, ond maen nhw wedi dod â’r elfen amddiffynnol yna mewn i’w gêm nhw trwy Steve Tandy, rhywun ry’n ni’n amlwg yn nabod yn dda iawn. Mae bod yn amddiffynnol gref yn gallu bod mor bwysig, yn amlwg. Mae’n gallu ennill gemau i chi.
“Beth sy’n poeni fi yw bod Lloegr yn dîm sydd yn sgorio ac os ydyn nhw’n sgorio, bydd rhaid i ni sgorio mwy o bwyntiau na nhw a fi ddim yn meddwl taw trwy giciau cosb yn unig y bydd hynny’n dod. Fi’n meddwl bod mwy o geisiau gan Lloegr ynddyn nhw na dim ond ciciau cosb, felly bydd angen i Gymru sgorio. Mae amddiffyn cryf yn hollbwysig mewn gêm brawf, ond fi’n meddwl bod rhaid cael yr elfen ymosodol yn erbyn timau fel Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon a doedd e ddim gyda ni, yn amlwg, yn Nulyn.”
‘Mae unrhyw beth yn gallu digwydd’
Er gwaetha’r canlyniadau cymysg hyd yn hyn, byddai’r bencampwriaeth yn dal yn sicr o fewn gafael Cymru pe baen nhw’n cipio’r fuddugoliaeth yn Twickenham, medd Catrin Heledd, sy’n ansicr serch hynny y bydd tîm Wayne Pivac yn gallu dod adref â’r pwyntiau.
“Mae’n teimlo fel’ny achos mae dwy gêm gartre’ gyda ni,” meddai am y gemau sydd i ddod yn erbyn Ffrainc a’r Eidal. “Ie, mae un ohonyn nhw yn erbyn Ffrainc ac mae honna’n mynd i fod yn gêm anferth achos maen nhw wedi dangos hyd yn hyn faint o fflachiadau sydd gyda nhw mewn chwaraewyr dawnus. Ond mae Ffrainc yn dîm sydd efallai yn gallu cael un gêm wael ym mhob pencampwriaeth. Mae sôn na fydd Camp Lawn eleni achos bod pawb yn gallu curo pawb, ac eithrio’r Eidal wrth gwrs. Felly mae’n teimlo fel pe byddai buddugoliaeth yn Twickenham yn bendant yn meddwl bod y bencampwriaeth yna i’w hennill, a dweud y gwir, gyda phwyntiau bonws yn dod i mewn i’r mathemateg. Yn hynny o beth, efallai bydd Cymru ychydig bach ar ei hôl hi hyd yn hyn.
“Ond buddugoliaeth yn Twickenham? Mae hi wastad yn hyfryd curo Lloegr. Fi’n meddwl mai dyna’r gêm mae’r cefnogwyr bendant eisiau ei hennill. A dwy gêm gartref wedyn, ac mae unrhyw beth yn gallu digwydd. Mae momentwm, fel welon ni’r llynedd, yn gallu dod yn rhan hollbwysig o’r bencampwriaeth.
“Felly, fi ddim yn siŵr a ddaw’r fuddugoliaeth yn Twickenham. Fi’n poeni efallai y bydd Lloegr ychydig yn rhy gryf, byddan nhw wedi cael pythefnos fawr gyda nifer o’r chwaraewyr ’nôl – Manu Tuilagi, Courtney Lawes, Lanchbury hefyd efallai. Mae yna chwaraewyr mawr yn dod ’nôl mewn i’r tîm ac mae rhywun yn poeni efallai y gwnawn nhw glicio o flaen torf gartref.”