Efo tanciau Rwsia’n symud i mewn i ranbarthau o’r Wcráin sydd, dan ddylanwad y Kremlin, eisio gadael y wlad honno, does fawr o syndod mai perthynas gwledydd a gwladwriaethau sy’n mynd â hi… a Ffranc Sais yn cymharu arweinydd Rwsia, Vladimir Putin, â Petrosian y chwaraewr gwyddbwyll …

“… a ddaeth yn bencampwr byd trwy gasglu manteision cynyddol, gan gyfyngu rhyddid ei wrthwynebydd i symud a phentyrru pwysau ar eu mannau gwan… r’yn ni mewn rhywbeth fel gêm ymgynghorol. Yn ôl y ddamcaniaeth, po fwya’ o chwaraewyr sydd yn rhan o ymgynghoriad, y mwya’ tebyg ydyn nhw o greu symudiadau gwych… Yn ymarferol yr hyn sy’n dod o bwyllgor o’r fath yw’r symudiad ‘saffaf’. Yn y sefyllfa sydd ohoni, dyna ydi bygwth sancsiynau.” (ffrancsais@blogspot.com)

Dafydd Glyn Jones oedd yn ein hatgoffa ni bod gwladwriaethau’n licio ambell fath o genedlaetholdeb… ond nid mathau eraill. Mae’n cynnig dau ddiffiniad…

“(a) Y math neis. Gwladgarwch (patriotism). Arferir gan Loegr a chan ba wladwriaeth bynnag sydd mewn cynghrair â Lloegr yr wythnos yma. (b) Y math ddim-yn-neis. Cenedlaetholdeb (nationalism, ac yn aml narrow nationalism). Arferir gan bobloedd israddol (lesser breeds).” (glynadda.wordpress.com)

Ar nation.cymru, wrth edrych ar y penderfyniadau ynghylch taclo costau byw, roedd Victoria Winckler o Sefydliad Bevan yn ein hatgoffa ni o broblemau gwlad fach wrth ochr un fawr, datganoli neu beidio …

“…mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi dewis dynwared penderfyniad Treth y Cyngor yn Lloegr… yn dangos pa mor anodd yw hi i lywodraeth ddatganoledig dorri ei chwys ei hun. Roedd cyhoeddiad Rishi Sunak ar gyfer Lloegr bythefnos yn ôl… wedi codi disgwyliadau am daliadau tebyg mewn mannau eraill. Roedd y bar wedi ei osod… Gweinidog Ariannol dewr fyddai’n anwybyddu gobeithion 70% o dylwythau Cymru drwy wrthod tuedd y Deyrnas Unedig…”

Ac wrth i’r Teulu Brenhinol a Llywodraeth Boris gystadlu am y nifer mwya’ o sgandalau, nid dim ond llywodraeth sy’n cael ei gwthio ar wlad fach, meddai Leigh Jones yn thenational.wales

“Fyddech chi’n dewis trefn lle’r oedd pennaeth eich gwladwriaeth wedi etifeddu eu rôl am fod eu cyndeidiau fil o flynyddoedd yn ôl wedi cael eu dewis gan Dduw, yn ôl y gred, ar gyfer y rôl honno? Fyddech chi’n dewis system lle mae’r pennaeth honno’n ennill incwm blynyddol o £20m o rentiau wedi eu talu ar dir a enillwyd trwy sathru ar wrthryfel 800 mlynedd yn ôl? A fyddech chi’n caniatáu i’r pennaeth ddefnyddio’r arian o’r degwm hwnnw i dalu setliad cyfreithiol mewn achosion sifil o gam-drin plant, a’u mab yn rhan ohonyn nhw? Petaech chi’n dechrau o’r dechrau, a fyddech chi’n dewis hyn i Gymru?”

Ac, yn y diwedd, ym marn John Dixon, mae angen newid mwy na dim ond llywodraeth a mwy na dim ond bargen arwynebol fel yr un sydd, mae’n debyg, yn cael ei hystyried gan Lafur a’r Dem Rhydd. …

“Yn sicr, mae yna le i aildrefnu gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, ond mae’n dechrau, yn anorfod, gyda diwygio etholiadol, un newid y mae Llafur yn parhau i’w wrthod. Er na ddylen ni ddibrisio manteision cael gwared ar gleptocratiaeth lwgr ac anonest, ddylen ni chwaith ddim derbyn yn ddi-gwestiwn bod ‘unrhyw’ ddewis arall dros-dro yn mynd i fod yn well os byddwn yn gadael i bethau lithro’n ôl wedi tymor neu ddau o lywodraeth. Yr un ffurf – efallai’r unig ffurf – o gytundeb etholiadol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth go-iawn fyddai cytundeb rhwng nifer o bleidiau i ymladd un etholiad gyda’i gilydd gyda’r un nod o gael diwygio etholiadol, gydag etholiadau newydd yn dilyn.” (borthlas.blogspot.com)