35 mlynedd ers iddi weld golau dydd am y tro cyntaf, mae albwm Gymraeg a ryddhawyd gan label recordiau o’r Almaen ar gael unwaith eto…

Rhwng 1984 a 1989 roedd Traddodiad Ofnus yn creu cerddoriaeth indi gitâr arbrofol a gwleidyddol, ac yn rhan o sîn roc danddaearol Gymraeg oedd yn cynnwys Datblygu, Y Cyrff, Llwybr Llaethog ag Yr Anhrefn.

Ond yn wahanol i’w cyfoedion, nid yw Traddodiad Ofnus yn cael eu cofio i’r un graddau erbyn heddiw.

Fe gafodd eu hunig albwm, Welsh Tourist Bored, ei rhyddhau yn 1987 ac arni mae Gareth Potter yn canu yn angerddol am ddiflasu ar Gymru ac effaith polisïau’r Prif Weinidog Margaret Thatcher ar y dosbarth gweithiol.

Ac yn gefndir i’w ganu – a’i weiddi ar brydiau – mae yna gerddoriaeth gitâr a bîts dyfeisgar sy’n anesmwytho, ac yn ffynci a grwfi mew ffordd weird.

Dyma sain Cymry ifanc gafodd lond bol ar y gorffennol, ac eisiau torri eu cwys eu hunain.

Ond mae yna fwy iddi na hynny…

Roedd dau brif aelod Traddodiad Ofnus yn byw yn Lloegr, Gareth Potter yn Llundain a Mark Lugg yn Brighton.

Roedden nhw wedi sefydlu’r band er mwyn cynnig rhywbeth ffresh yn yr iaith Gymraeg, ond yn chwarae’r rhan fwyaf o’u gigs yn Lloegr, gan recordio eu hunig albwm yn Llundain.

Ac ar ben hynny, fe gawson nhw gytundeb i recordio Welsh Tourist Bored gan gwmni recordiau o’r Almaen.

Felly roedden nhw yn wahanol iawn i’r band Cymraeg arferol yn y 1980au, neu unrhyw ddegawd cynt na wedyn.

Ac mae label recordiau Ankst wedi penderfynu ailryddhau Welsh Tourist Bored – gyda thraciau bonws a holl senglau’r band – 35 o flynyddoedd ers i’r albwm gael ei rhyddhau’r tro cyntaf ar label o’r enw Constrictor Records.

“Roedd y label yn cael ei redeg gan indie pop star Almaeneg o’r enw Philip Boa – hence the constrictor,” cofia Gareth Potter.

“Ac roedd e’n label eithaf mawr, roedden nhw yn snapio fyny lot o indie acts o Brydain. Pobol oedd ar [raglen radio] John Peel ar y radio eithaf lot. Pobol fel The Wedding Present, The Three Johns a The Legend.

“Roedden nhw yn enwau oedd yn yr NME eithaf lot ar y pryd, ac roedden ni yn hapus iawn ac yn excited i gael rhyddhau ar y label yma. Yn enwedig gan bod y band a’r albwm yn uniaith Gymraeg.”

Ac roedd bos label Constrictor wrth ei fodd gyda Traddodiad Ofnus.

“Roedd Phil yn wych, boi rili da,” cofia Gareth, “roedd e’n excited ac yn galw ni yn ‘very special band from Wales!’”

Ond er bod y band yn hanu o Gymru, yn Lloegr y gwnaethon nhw fwrw eu prentisiaeth.

“Roedd hanner y band yn byw yn Llundain, hanner y band yn Brighton, ac roedden ni yn chwarae’r standard indie scene, venues eithaf bach, o gwmpas Llundain a Brighton,” cofia Gareth.

Ac roedd canu yn Gymraeg yn gwneud y band yn “egsotig”… roedd angen esbonio i Saeson sut i ddweud Traddodiad Ofnus, gyda Gareth yn egluro fod yr enw yn swnio’n debyg i ‘Trod on a dog mess’!

“Roedd pawb yn cool gyda ni yn canu yn Gymraeg, a bob hyn a hyn bydden ni yn cael pobol fel Y Cyrff neu Llwybr Llaethog [yn y gigs yn Lloegr].”

Fe gafodd Traddodiad Ofnus y cynnig i recordio albwm gyda label recordio Constrictor wedi i’w gitarydd roi demos o ganeuon y band i Philip Boa.

Felly roedden nhw yn fand Cymraeg oedd yn byw yn Lloegr ac yn cael eu talu i recordio albwm yn Llundain gan Almaenwr.

“Roedden ni yn eithaf hapus i chwarae’r exotic card,” meddai Gareth. “Roedden ni yn ymwybodol iawn bod bandiau Cymraeg oedd jesd yn chwarae ar y sîn Cymraeg yn, wel… familiarity breeds contempt, ynde.

“Faint o weithiau oeddet ti wedi bod mewn cyngerdd Cymraeg a neb yn cymryd dim sylw o’r band?

“Felly roedden ni jesd yn miniogi, yn ymarfer yn gyson, yn chwarae yn fyw yn gyson – ond ddim o flaen y gynulleidfa Gymraeg.

“Felly unwaith bydden ni yn mynd i Fangor neu i Gaerdydd, neu le bynnag, i chwarae gigs, roedden ni yn fully formed.

“Roedden ni yn newydd, fel petae, i’r gynulleidfa, a wnaeth hwnna weithio yn anferth i ni. Achos roedden ni wedi arfer chwarae yn fyw, ac roedd pobol wir yn cymryd sylw.

“Achos doedden ni ddim yn swnio fel neb arall. Ddim yn chwarae twelve bar blues neu the obligotary reggae song a oedd yn standard gyda bandiau Cymraeg coleg.

“Roedden ni yn cynnig rhywbeth tra gwahanol, yn edrych yn wahanol, ac wedi gweithio ar ein sŵn ni. Ac roedden ni wir yn dynn, er bod yna elfennau really swnllyd i gael. Roedd yna wastad groove yna.”

Ac mae Gareth Potter, sy’n 57 oed erbyn hyn, wedi cael ei siomi ar yr ochr orau wrth fynd nôl i wrando ar y caneuon Traddodiad Ofnus y bu iddo eu recordio yn ei ugeiniau cynnar.

“Mae e gymaint yn well, deng mlynedd ar hugain wedyn!

“Ac mae Rhys Mwyn yn sôn amdano fel un o albwms coll y Sîn Gymraeg.

“Ac oherwydd bod ni ddim o gwmpas [Cymru], yn rhywbeth ar wahân i’r Sîn Gymraeg ar y pryd… dw i ddim yn meddwl wnaeth gymaint â hynny o bobl gael copi o’r albwm.

“Felly dw i yn gobeithio y bydd pobol yn cael gwrando ar hwn, hyd yn oed pobol oedd wedi ein gweld ni yn fyw, yn cael clywed y record efallai am y tro cyntaf.

“A dw i’n siŵr bydd rhai cerddorion ifanc gyda diddordeb ynddo fe hefyd, fel rhywbeth ffresh a diddorol oedd yn digwydd amser maith yn ôl gan fersiwn ifanc ohona i a Lugg a phawb arall oedd yn y band.”

Creithiau

Un o uchafbwyntiau Welsh Tourist Bored yw ‘Hunangofiant’ ble mae Gareth Potter yn canu yn llawn angerdd am ‘ddynion prudd yn cerdded yn araf a phlant â’u llygaid gwag yn gwaedu fewn i wacter’.

Mae’r gân yn ddarlun byw o amodau llwm y 1980au i nifer o Gymry wrth i ddiwydiannau trwm edwino.

“Wnes i dyfu fyny mewn pentref glo yn ne ddwyrain Cymru, ac roedd diweithdra yn real,” meddai Gareth.

“Roedd gen i rownd bapur yn ddeg oed… ond roedd yna ddynion mewn oed yn gwneud rownd bapur.

“Roedd diweithdra yn anferthol, pobol yn cymryd jobsus felly…

“Roeddet ti yn gweld dynion cryf yn cerdded o gwmpas, efo dim byd i’w wneud.

“Roedd siopau yn cau lawr am nad oedd gan bobl arian i wario, y diwydiant mawr wedi cau lawr.

“Fe gafodd creithiau eu creu gan ddiwydiant mawr…

“Mae’r Cymoedd yn bert iawn erbyn hyn, mae yn rhaid dweud.

“Ond roedd y Cymoedd wnes i dyfu fyny ynddyn nhw yn ddu. Slag tips ym mhobman…

“Ac roeddwn i eisiau symud allan cyn gynted ag y gallwn i.”

 

Bydd Welsh Tourist Bored ar gael i’w ffrydio ar 1 Mawrth, ac yn ymddangos ar gryno ddisg dwbwl ar 18 Mawrth gyda thraciau bonws