Dawns y Don
Mae’n siŵr bod pawb wedi cael hen ddigon ar y stormydd dros yr wythnosau diwethaf, gyda Dudley, Eunice a Franklin yn gwneud eu gorau i darfu a chreu dinistr.
Ond un a fentrodd mas i ddal Eunice yn taro glannau Aberystwyth ar gamera ei ff n oedd Huw Llywelyn Evans. Fe rannodd y fideo o’r tonnau’n taro i gyfeiliant cerddoriaeth ddigon addas ar BroAber360.
Mae’n awgrymu, wrth gwrs, mai’r lle gorau i’w wylio yw o flaen y tân gyda phaned o de!
M-SParc yn mynd â thechnoleg ar y lôn
Mae Stryd y Plas, Caernarfon, ar fin dod yn lleoliad newydd i brosiect M-SParc – prosiect sy’n cefnogi arloesedd mewn cymunedau.
Bydd Caernarfon yn ymuno â Bae Colwyn ac Ynys Môn fel cartref i weithgareddau sy’n ymwneud â thechnoleg a’r byd digidol – o’r Gofod Gwneuthurwr Ffiws, desgiau poeth, gofod cydweithio, gweithdai busnes, dylunio, technoleg ac arloesi, yn ogystal â sesiynau gwyddoniaeth a thechnoleg i bobl ifanc.
“Dim ond am rai misoedd rydyn ni o gwmpas, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod i weld ni yng Nghaernarfon a Bae Colwyn i fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael,” meddai Ben Roberts o’r fenter, sydd wedi rhannu mwy o fanylion am y prosiect ar Caernarfon360.
Torfeydd yn galw am Ddeddf Eiddo
Aberystwyth oedd cartref rali Cymdeithas yr Iaith, a daeth dros1,200 i ymuno yn yr orymdaith ddydd Sadwrn.
Cafodd y rali ei chynnal i gofio 60 mlynedd ers darlith Saunders Lewis am dynged yr iaith, ac i bwyso unwaith yn rhagor ar yr awdurdodau i ymateb i’r argyfwng tai.
Daeth pobol i’r rali o bob cwr, gan gario placardiau’n dangos y gymuned roedden nhw’n ei chynrychioli. Mae’r lluniau ar BroAber360 yn dal naws y diwrnod.