Mae capten Cymru dan 20 wedi dweud bod “dim byd gwell na chwarae Lloegr” cyn y gêm yn eu herbyn nhw yn y Chwe Gwlad.
Fe wnaeth Alex Mann arwain y tîm mewn buddugoliaeth addawol yn erbyn yr Alban bythefnos yn ôl, gan ennill 26-13 ar Barc Eirias, a hynny ar ôl bod yn colli’r ornest 10-0.
Mae Mann, sy’n chwarae yn safle’r wythwr, yn gobeithio y gallan nhw ailadrodd y perfformiad hwnnw yn erbyn yr Hen Elyn yn Doncaster heno (nos Wener, 25 Chwefror).
Dydy’r gwrthwynebwyr ddim yn dod i mewn i’r gêm â’u pennau i fyny, ar ôl cael eu trechu gan Yr Eidal yn eu gêm ddiwethaf nhw.
Er na fydd yr un o’r ddau dîm felly yn mynd am y Gamp Lawn, ar ôl i Gymru golli eu gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon, byddan nhw’n ymdrechu’n galed i aros yn y ras am y Bencampwriaeth y penwythnos hwn.
Fe fydd y gêm heno yn fyw ar S4C, gyda’r gic gyntaf am saith.
‘Byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu’
Mae’r rhosod coch wedi gwneud wyth newid i’r tîm a gollodd 6-0 yn erbyn Yr Eidal yn Treviso, ond mae Alex Mann yn bendant nad ydyn nhw’n cymryd sylw o hynny.
“Dw i ddim wir yn canolbwyntio ar dimau eraill nac eu chwaraewyr nhw,” meddai’r chwaraewr rheng ôl o Ferthyr Tudful.
“Dw i’n hoffi canolbwyntio ar fy hun a fy nghyd-chwaraewyr.
“Mae Lloegr yn dîm da iawn, ond does dim byd gwell na’u chwarae nhw.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed ar y pethau rydyn ni’n dda arnyn nhw ac yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm.
“Rydyn ni’n cael gwefr o weld ein cyd-chwaraewyr yn cael effaith ar y cae ac mae hynny yn lledu o gwmpas y tîm wedyn.
“Byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i gael y canlyniad iawn.”
‘Pan mae e’n siarad, mae pobol yn gwrando’
Roedd hyfforddwr amddiffyn tîm dan 20 Cymru, Craig Everett, yn canu clodydd ei gapten cyn y gêm fawr.
“Mae Alex yn arwain drwy beth mae’n ei wneud, yn hytrach na’i ddweud,” meddai.
“Dydy o ddim yn un sy’n sgrechian na’n gweiddi. Mae e’n dweud: ‘dw i am wneud e, felly dewch a fy nilyn i’.
“Does ganddo fawr o eiriau, ond pan mae e’n siarad, mae pobol yn gwrando.”
‘Trip anodd iawn’
“Mae’n anodd gyda’r tîm dan 20 achos gaethon nhw gymaint o feirniadaeth ar ôl beth ddigwyddodd allan yn Cork, ac mae’n rhaid cofio, er bo nhw’n chwaraewyr sydd â’u bryd ar gynrychioli Cymru eto yn y dyfodol, tîm y dynion, maen nhw’n dal yn eitha’ ifanc,” meddai Catrin Heledd, gohebydd chwaraeon BBC Cymru wrth golwg360.
“Maen nhw’n blant, mewn ffordd, yn eu harddegau felly mae’r feirniadaeth yna’n amlwg yn gallu bod yn anodd iawn iddyn nhw.
“Dyn nhw ddim wedi cael llawer o amser efo’i gilydd fel carfan achos Covid, fi’n meddwl mai dwy gêm baratoi gaethon nhw lle oedd Iwerddon wedi cael chwech, felly mae hwnna’n rhoi’r cyfan yn ei gyd-destun o faint o amser oedden nhw wedi cael fel carfan i glicio cyn y gêm gyntaf yna yn erbyn Iwerddon.
“Mae Lloegr yn mynd i fod yn drip anodd iawn bob blwyddyn ac, yn amlwg, ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn yr Eidal bythefnos yn ôl, maen nhw’n mynd i fod yn dîm sydd â phwynt i’w brofi – beware the wounded animal fi’n meddwl fydd hi yn Doncaster.
“Mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth anodd iddyn nhw, ond dyna ddiben y gystadleuaeth hon, fi’n meddwl, bo nhw’n gallu dysgu o’u camgymeriadau a dangos tipyn o gymeriad ac os wnawn nhw adeiladu ar y perfformiad, yn enwedig yn yr ail hanner ym Mae Colwyn, byddwn ni mewn am dipyn o gêm lan yn Doncaster.
“Ond mae eisiau iddyn nhw gael dipyn o dân yn eu boliau nhw hefyd a chofio bod y canlyniad yna draw yn Cork yn brifo a pha mor anghyfforddus oedd y daith ’nôl adre’ i Gymru.”