Fe fydd tîm criced newydd yn y gogledd y tymor hwn yn cystadlu o dan yr enw Sir Genedlaethol Cymru (y Gogledd).

Cafodd y tîm ei sefydlu ar y cyd rhwng Sir Genedlaethol Cymru, sydd eisoes yn cystadlu yn strwythur y Siroedd Llai (Minor Counties), a Chynghrair Griced Gogledd Cymru.

Er bod Sir Genedlaethol Cymru yn mynd o nerth i nerth, ychydig iawn o gricedwyr o’r gogledd sydd wedi cynrychioli’r tîm hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf – yn eu plith mae Ben Roberts (2016-2018), cyn-fowliwr cyflym Morgannwg Dewi Penrhyn-Jones (2012-2015), a David Lloyd, capten newydd Morgannwg.

Mae Joshua Andrady (2019), James Claybrook (2012) a Roman Walker (2018) hefyd wedi chwarae i’r tîm yn achlysurol, gyda Walker bellach yn chwarae ar y lefel sirol i Swydd Gaerlŷr.

Fe fu daearyddiaeth Cymru’n her i gorff Criced Cymru ers tro wrth iddyn nhw geisio sicrhau cynrychiolaeth deg o bob cwr o’r wlad, ac er bod Cwpan Cymru yn cynnig cyfle ers tro i chwaraewyr a thimau o bedwar ban herio’i gilydd, fe fydd y tîm hwn yn rhoi mwy o sylw i chwaraewyr o’r gogledd yn y gynghrair fel bod modd iddyn nhw gamu i fyny i dîm Sir Genedlaethol Cymru maes o law.

Daeth y syniad o greu tîm i’r gogledd ar ôl i Russell Penrhyn-Jones, tad Dewi, ddod â chriw o chwaraewyr ynghyd i chwarae yn erbyn rhai o siroedd Lloegr, gan gynnwys buddugoliaeth dros ail dîm Swydd Stafford yn Llanelwy.

Ymhlith gemau cynta’r tîm y tymor hwn fydd y rheiny yn erbyn Cumbria, Swydd Stafford, Sir Caer, Northumberland a Sir Amwythig mewn twrnament chwe thîm, a’r gobaith yw chwarae gêm ddeuddydd yn erbyn y dalaith Wyddelig Munster ym mis Mehefin.

Bydd y tîm newydd yn cael ei noddi yn 2022 a 2023 gan y cwmni Watkin Property Ventures ym Mangor a 360 Groundcare, cwmni rheoli tir yn Llanelwy.

‘Cam gwych i’r cyfeiriad cywir’

“Mae hwn yn gam gwych i’r cyfeiriad cywir i griced yng ngogledd Cymru,” meddai Matt Thompson, Pennaeth Llwybrau Talent Criced Cymru.

“Nid yn unig y bydd e’n rywbeth i chwaraewyr yn yr ardal anelu ato, ond fe fydd e hefyd yn rhoi’r ffenest siop orau bosib iddyn nhw roi eu dwylo i fyny yn y dyfodol i gael eu dewis i’r tîm sir genedlaethol llawn.

“Does dim byd gwell na chynrychioli eich gwlad ar unrhyw lefel, ac mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’r chwaraewyr wneud hynny.

“Rhaid i ni ddiolch yn y lle cyntaf i Russell am arwain y ffordd ar hyn, i Gynghrair Gogledd Cymru am eu cefnogaeth ac yn bwysicaf oll i’n noddwyr – hebddyn nhw, fyddai hyn ddim yn bosib yn y lle cyntaf.”

Mae cadeirydd y gynghrair yn y gogledd yn dweud y bydd y tîm newydd yn gaffaeliad i’r rhanbarth.

“Mae criced yng ngogledd Cymru’n tyfu’n gryfach wrth ffurfio’r tîm hwn, ac mae pawb sydd ynghlwm wrth griced yn ein cynghrair ni wedi cyffroi ynghylch ei ddatblygiad,” meddai Allan Senior, cadeirydd Cynghrair Gogledd Cymru.

Y gemau’n llawn

Mai 1: gêm baratoadol ymhlith y garfan (Llanelwy, 50 pelawd)

Mai 17: Cumbria (oddi cartref – lleoliad i’w gadarnhau, 50 pelawd)

Mai 25: Swydd Stafford (Llanelwy, 50 pelawd)

Mehefin 8: Swydd Stafford (oddi cartref – Milford Hall, dwy gêm ugain pelawd T20)

Mehefin 28-29: Munster (Bangor, 2 ddiwrnod)

Gorffennaf 26: Sir Caer (Bae Colwyn, 50 pelawd)

Awst 2: Northumberland (Bangor, 50 pelawd)

Awst 3: Northumberland (Bangor, dwy gêm ugain pelawd T20)

Dyddiad i’w gadarnhau: Sir Amwythig (oddi cartref – Coleg Ellesmere, 50 pelawd)

Awst 29-30: Sir Amwythig (oddi cartref – Coleg Ellesmere, 2 ddiwrnod)