Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan Pinatar ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Manteisiodd Denise O’Sullivan ar gamgymeriad gan Rhiannon Roberts ar ymyl y cwrt cosbi i rwydo unig gôl y gêm ar ôl 25 munud.

Ond gallai’r Gwyddelod fod wedi mynd ar y blaen ar ôl tair munud, ar ôl i Kyra Carusa fethu ag ergyd ar ôl curo Olivia Clark yn y gôl.

Methodd Niamh Fahey â’i phen hefyd wrth i Iwerddon fwynhau cryn dipyn o’r meddiant yn Sbaen.

Daeth cyfle gorau Cymru i Ceri Holland toc cyn yr egwyl, wrth iddi daro foli heibio’r gôl o 12 llathen.

Rhoddodd Cymru gryn bwysau ar Iwerddon yn niwedd y gêm, ac roedd gwaedd am gic o’r smotyn ar ôl awgrym fod y Gwyddelod wedi llawio’r bêl ond cafodd ei gwrthod.