Cafodd llythyr blin ei anfon at Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru gan Amanda Milling, Gweinidog yn y Swyddfa Dramor, ddechrau’r wythnos, a’r llythyr hwnnw’n beirniadu ymweliad Adam Price a Mick Antoniw â’r Wcráin.

Fe deithiodd arweinydd Plaid Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru er gwaethaf cyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â mentro i’r wlad.

Yn ôl Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru yn San Steffan, roedd llythyr Amanda Milling ar Chwefror 21 yn dweud bod “y Swyddfa Dramor wedi bod yn cynghori yn erbyn teithio i’r Wcráin ers yr 11eg o Chwefror ac yn argymell y dylai unrhyw Brydeinwyr yn y wlad adael nawr”.

“Mae’r cyngor yma’r un mor berthnasol i Aelodau Seneddol ac i Aelodau o Senedd Cymru,” meddai’r llythyr.

“Dwi eisiau tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa: rydym wedi symud staff y llysgenhadaeth allan o Kyiv dros dro ac yn pwysleisio y byddai unrhyw ymosodiad milwrol gan Rwsia yn yr Wcráin yn effeithio yn fawr ar allu Llywodraeth Prydain i ddarparu cymorth gonsylaidd i unrhyw Brydeinwyr yno.

“Mae’r sefyllfa ar lawr gwlad yn ansefydlog ac yn newid yn gyflym.”

‘Dangos undod’

Yn ôl Adam Price, roedden nhw wedi mynd yno “i ddangos undod” gyda’r Wcráin, ac mae’n mynnu ei fod wedi talu am y daith o’i boced ei hun.

“Roeddwn i’n teimlo bod gen i ddewis – i naill ai wneud sylw o bell, tu ôl i ffôn neu liniadur, neu ddod yma i gysylltu a deall ar lefel ddynol, ystyrlon,” meddai ar Twitter.

“Yn amlwg nid wyf yma i ddatrys y gwrthdaro, ond rwyf yma i ddangos undod mewn cyfnod lle mae cysylltiad gwirioneddol, ystyrlon â phobl go iawn yn golygu llawer mwy na thrydar, datganiad i’r wasg neu ragor o sŵn gan wleidydd o foethusrwydd ei gartref.

“Nid yw’n mynd i fod yn amser da i deithio yma am beth amser, ac roedd saib y Senedd yn rhoi’r cyfle i mi wneud hynny.

“Os ydym am weld Cymru wirioneddol yn cysylltu â’r byd, yna mae’n rhaid i ni estyn allan mewn ffyrdd ystyrlon, hyd yn oed os gallai hynny deimlo’n anghyfforddus ar adegau.”

Ar  y llaw arall, roedd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, yno ar “ymweliad personol” oherwydd fod ganddo “gysylltiadau cryf” â’r wlad, gyda’i deulu’n hanu o’r wlad.