Mae cael gwared ar y Ddeddf Crwydraeth yn “gam positif yn y cyfeiriad cywir”, meddai elusen Shelter Cymru.
Cafodd y ddeddf, a oedd yn caniatáu i’r heddlu arestio pobol am gysgu ar y strydoedd neu fegera yng Nghymru a Lloegr, ei dileu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 22).
Er bod Shelter Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad, maen nhw’n dweud bod angen gwneud mwy i rwystro mwy o bobol rhag cael eu gwthio i ddigartrefedd.
Rhwng 2015 a 2021, cafodd bron i 500 o bobol eu cyhuddo dan y ddeddf, a ddaeth i rym yn wreiddiol yn 1824, yng Nghymru.
Roedd y ddeddf yn golygu y gallai unrhyw un oedd yn cael ei gyhuddo o’i thorri wynebu dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol am ddwy flynedd.
“Rydym wrth ein bodd bod y Ddeddf Crwydraeth wedi’i dileu o’r diwedd ac rydym wedi bod yn bartner yn yr ymgyrch ehangach i Ddileu y Ddeddf ers 2018,” meddai Shelter Cymru.
“Credwn nad yw digartrefedd yn drosedd, a ni ddylai fyth fod. I ni, cartref yw popeth a heb gartref da mae’n amhosibl i bobol fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol.
“Mae cael gwared â’r ddeddf yn cynrychioli cam positif i’r cyfeiriad iawn ond mae angen gwneud mwy i rwystro pobol rhag cael eu gwthio i ddigartrefedd yn y lle cyntaf.”
‘Tosturio yn lle criminaleiddio’
Mae Layla Moran, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn y ddeddf yn San Steffan, wedi croesawu’r cyhoeddiad.
“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu, dw i wrth fy modd ein bod ni’n cael gwared ar y ddeddf hynafol a chreulon hon,” meddai.
“Ni ddylai neb gael eu criminaleiddio am gysgu ar y stryd, yn enwedig gan ddarn o ddeddfwriaeth a gafodd ei basio yn ystod y cyfnod Sioraidd.
“Mae hyn yn dyst i waith caled gymaint o bobol: y myfyrwyr ddaeth â’r mater at fy sylw i ddechrau, a Crisis, ein partneriaid ymgyrchu.
“Gall hyn drawsnewid y ffordd rydyn ni’n siarad am gysgu ar y strydoedd a digartrefedd yn y wlad hon, o griminaleiddio i dosturio.
“Er ein bod ni’n gallu dathlu heddiw, yfory byddwn ni’n dychwelyd at y gwaith caled o ddal y llywodraeth yn atebol ar eu hymrwymiad yn eu maniffesto i stopio digartrefedd erbyn diwedd y Senedd hon.”