Gyda mis Hanes LHDT+ yn dirwyn i ben yn fuan, mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn cydnabyddiaeth gan elusen Stonewall am greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer staff a myfyrwyr.
Fel rhan o ymgyrch Dewch â’ch Hun i Weithio yr elusen, sy’n amlygu pwysigrwydd amgylcheddau gwaith cynhwysol, fe fydd y brifysgol yn derbyn y Wobr Efydd.
Yn ogystal, mae’r brifysgol wedi dringo 25 safle ym mynegai Stonewall sy’n graddio cydraddoldeb mewn gweithleoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae hynny’n golygu eu bod nhw nawr yn safle 104 o blith mwy na 400 o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys yn y mynegai a gasglodd farn dros 79,000 o weithwyr ar hyd y wlad eleni.
‘Adlewyrchiad o ymroddiad staff a myfyrwyr’
Cafodd Rhwydwaith Staff LHDT+ y Brifysgol ei sefydlu yn 2010 ac mae’n agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y Brifysgol mewn unrhyw fodd, ôl-raddedigion sy’n ystyried eu hunain yn rhan o gymuned LHDT+, ynghyd â ffrindiau a chefnogwyr y gymuned.
Gyda chefnogaeth y Brifysgol, mae’r rhwydwaith wedi dod yn allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o faterion LHDT+.
Mae Ruth Fowler, cadeirydd Rhwydwaith LHDT+ Prifysgol Aberystwyth, wedi croesawu gwobr Efydd Stonewall.
“Rydym wrth ein bodd gyda’r achrediad Gwobr Efydd hwn yn ogystal â’r ffaith ein bod wedi dringo yn y mynegai unwaith eto,” meddai.
“Mae’n adlewyrchiad o ymroddiad staff a myfyrwyr sy’n creu awyrgylch mor groesawgar a chynhwysol.”
‘Adeiladu ar y seiliau cadarn’
Ar ôl i’r newyddion gael ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Chwefror 23), dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth sydd â chyfrifoldeb am amrywiaeth a chynhwysiant, eu bod nhw fel sefydliad yn “ymfalchïo yn natur gynhwysol” eu cymuned.
“Mae gwobr Efydd Stonewall yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r gwaith polisi pwysig gan gydweithwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl,” meddai.
“Mae gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei holl ffurfiau mor bwysig ac mae ymrwymiad y Brifysgol i gynhwysiant yn gonglfaen i’n gwaith yma.
“Edrychwn yn awr at adeiladu ar y seiliau cadarn hyn i gryfhau ein cymuned er lles pawb.”
‘Gall effaith gweithleoedd cynhwysol newid bywydau’
Yn ôl ymchwil gan Stonewall, mae 35% o weithwyr LHDT+ yn y Deyrnas Unedig yn cuddio pwy ydyn nhw yn y gwaith, tra bod bron i 18% wedi bod yn darged sylwadau negyddol oherwydd eu bod yn rhan o’r gymuned LHDT+.
“Rydym yn treulio cymaint o’n hamser yn y gwaith, a gall ein gyrfa fod yn rhan enfawr o’r ffordd yr ydym yn diffinio ein hunain,” meddai Liz Ward, Cyfarwyddwr Rhaglenni Stonewall.
“Dylai pob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar allu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith.
“O ddeall sut y bydd polisïau adnoddau dynol, megis absenoldeb rhiant, yn effeithio arnynt, i gael sicrwydd y gallant siarad yn agored am eu bywydau a phartneriaid wrth y peiriant coffi, gall effaith gweithleoedd cynhwysol newid bywydau.
“Mae’n wych bod Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y wobr Efydd am ei hymdrechion a’i hymrwymiad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, ac edrychwn ymlaen at weld a chefnogi gweddill ei thaith cynhwysiant.”