Mae’r sylw sy’n cael ei roi i faterion datganoledig gan brif ddarparwyr newyddion y Deyrnas Unedig wedi gwella, yn bennaf oherwydd Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl yr adroddiad gan yr Athro Stephen Cushion o Brifysgol Caerdydd, mae’r prif ddarparwyr wedi gwella’r ffordd maen nhw’n adrodd am faterion datganoledig ers 2015 a 2016.
Datgelodd cyfweliadau ag uwch olygyddion newyddion fod ystafelloedd newyddion bellach yn gynyddol ymwybodol ynghylch adrodd am wahaniaethau polisïau datganoledig, ond fod cyfleoedd yn cael eu colli hefyd.
Dangosodd yr ymchwil fod mwy o newyddion y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky News yn gallu bod yn berthnasol i ddatganoli – tua 40% o’r cynnwys – yn sgil y sôn am reolau Covid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er hynny, tua 60% o’r eitemau newyddion a allai fod yn berthnasol i ddatganoli oedd yn crybwyll un neu fwy o’r pedair gwlad.
Golyga hynny nad oedd tua 40% o’r straeon yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi’n berthnasol i ddatganoli, er enghraifft drwy ddweud bod polisi ond yn berthnasol i Loegr.
Manylu ar lywodraethau
Cytunodd yr holl olygyddion fod angen i adroddiadau ddarparu cyfarwyddyd fel bod cynulleidfaoedd yn deall a yw’r mater yn berthnasol i holl wledydd y Deyrnas Unedig ai peidio.
Tynnodd Laura Wilshow, Uwch Olygydd Rhaglen ITV News at Ten, at y ffaith eu bod nhw’n tueddu i ddefnyddio ‘y Llywodraeth’ mewn adroddiadau, yn hytrach na manylu ar ba lywodraeth.
“Mae gennym ni dueddiad i ddweud y Llywodraeth am bob dim,” meddai.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n well yn gwneud hyn y ffordd arall rownd.
“Felly os yw’n benodol iawn i’r llywodraethau datganoledig, yna’n amlwg rydyn ni’n benodol wrth ddweud hynny… fe wnaeth y pandemig amlygu pa mor wahanol oedd y cenhedloedd datganoledig yn delio ag e, ac rydyn ni’n llawer mwy ymwybodol er mwyn bod yn glir gyda materion iechyd yn ystod y pandemig, a hoffwn feddwl y bydd hynny’n aros.”
Dywedodd Carl Fitzsimmons, golygydd Channel 5 News, fod lle i gael mwy o eglurdeb wrth gyfeirio at weinidogion y Deyrnas Unedig.
“Os ydych chi’n siarad â gwleidydd o’r Alban yna mae’n ymwneud â mater Albanaidd, ond pan rydych chi’n siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dyw hi ddim bob tro’n glir.
“I fi, os yw hi’n stori ddatganoledig, rydych chi’n cyfeirio at hynny yn y penawdau, yn y cyflwyniad, ac yn y darn. Dylai gael ei gynnwys ym mhob rhan o’r adrodd ar y stori.”
‘Mwy o eglurdeb ar-lein’
O ystyried bod Covid-19 wedi amlygu datganoli, roedd bron i bedwar ym mhob deg eitem newyddion yn berthnasol i ddatganoli, meddai’r Athro Stephen Cushion.
“Roedd hynny bron bum gwaith yn fwy o gynnwys am ddatganoli na chafodd ei adnabod mewn astudiaeth flaenorol yn 2016,” meddai.
“Roedd newyddion oedd yn benodol am wleidyddiaeth ddatganoledig yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cyfri am ffracsiwn o’r holl gynnwys (1.4%).
“Roedd nifer o’r eitemau gwleidyddol datganoledig hynny’n ymwneud â phleidiau yng Ngogledd Iwerddon ac arweinyddiaeth y DUP, a oedd yn fater byw pan wnaethpwyd yr ymchwil.
“Roedd yna ryw fath o gyfeiriad at ddatganoli mewn chwech ym mhob deg o’r eitemau oedd yn berthnasol i un neu fwy o genhedloedd y Deyrnas Unedig.
“Fe wnaeth adroddiadau newyddion y BBC, yn enwedig eu safle newyddion ar-lein, roi llawer mwy o eglurdeb ynghylch perthnasedd materion datganoledig o gymharu â bwletinau teledu masnachol a gwefannau ar-lein.
“Roedd yr holl olygyddion yn cytuno bod newyddion ar-lein yn cynnig mwy o le ac amser i gyfeirio at bwerau datganoledig nag adroddiadau teledu.
“Roedd hynny’n amlwg drwy ddadansoddi cynnwys, a ddangosodd bod newyddion ar-lein yn cynnig llawer mwy o eglurdeb am berthnasedd materion datganoledig na newyddion teledu.”
Cafodd y gwaith ymchwil ei gynnal dros gyfnod o bedair wythnos fis Mehefin a mis Gorffennaf y llynedd.