Does dim modd “dibynnu” ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu cefnogaeth i drigolion sy’n dioddef yn sgil stormydd a llifogydd, yn ôl un o drigolion Pontypridd.
Mae Wyn Jones wedi dweud wrth golwg360 fod yn rhaid i drigolion “baratoi ein hunain” ac nad oes “dim cefnogaeth” ar gael gan y Cyngor.
Daw ei sylwadau ddwy flynedd ers Storm Dennis, wnaeth achosi llifogydd difrodol ym Mhontypridd, ac yn dilyn penwythnos lle tarodd Storm Eunice a Storm Franklin Gymru.
“Ym Mhontypridd, dw i’n credu bod gor-ymateb wedi bod i’r un fuodd dydd Gwener, Eunice, cawson ni ychydig o wynt ac ati,” meddai Wyn Jones.
“Dydd Sul oedd y diwrnod gwaethaf gawson ni gyda’r rhybudd coch a phopeth.
“Roedd yr afon yn uchel ac roedd yno flood warning yn dweud be prepared felly wnes i brynu sand bags fy hunan i gyd achos alla i ddim dibynnu ar y Cyngor, no way!
“Y cwbl wnaethon nhw oedd gohirio casglu’r sbwriel, dyna’r unig beth oedd ar eu gwefan nhw.
“Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi cael gwybod, rhywun drws nesa ddywedodd, ‘They’re not picking up the rubbish now until Monday’, wrtha i.
“Felly na, dim cefnogaeth o’r cyngor, absolutely dim byd.
“Rydyn ni’n byw rhyw wyth metr oddi wrth yr afon, ac ro’n i’n edrych arni dros y penwythnos pan oedd hi’n uchel ac yn meddwl, ‘Wel os yw e’n digwydd, mae e’n digwydd’.”
“Gwarthus”
Mae Wyn Jones hefyd yn gweld bai ar Lywodraeth Cymru, gan eu cyhuddo o beidio â buddsoddi digon mewn amddiffynfeydd.
“Roedden ni fod i gael floodgates, fyddai wedi bod yn help,” meddai.
“Ond does dim byd wedi digwydd, dim byd.
“Ni’n cael llythyron gan Mick Antoniw (AoS Pontypridd), a’r oll maen nhw’n ei ddweud ydi ‘Go onto the website for further information’.
“Yr oll yw hynny wedyn yw waffle, ac mae lot o bobol fan hyn sydd mewn oedran lle nad oes internet access gyda nhw.
“Does neb yn gwybod dim byd, jyst waffle waffle waffle ers dwy flynedd.
“Heledd Fychan [Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru] yw’r unig un sydd wedi bod yn holi cwestiynau a sai’n credu bod hi’n cael yr atebion yr ydyn ni gyd eisiau.
“Mae pob un yn flin oherwydd dydyn ni ddim yn deall pam bo nhw ddim yn gwneud rhywbeth.
“Maen nhw’n disgwyl i rywbeth ddigwydd eto ac wedyn dweud, ‘Ok we’ll have a look at it again’.
“Mae e’n warthus.”
“Cynyddu ein buddsoddiad”
Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cymru: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £520,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf i osod llifddorau i leihau’r perygl i eiddo ar draws RCT.
“Mae’r amddiffynfeydd rhag llifogydd rydyn ni wedi’u hariannu dros dymor y llywodraeth ddiwethaf (2016-21) wedi atal degau o filoedd o gartrefi a busnesau rhag cael eu gorlifo.
“Wrth i’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol gynyddu gyda dyfodiad y newid yn yr hinsawdd, rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn rheoli perygl llifogydd i £65m eleni, sef y lefel uchaf mewn un flwyddyn.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ymateb.