Mae Neil McEvoy yn mynnu nad yw e am gydymffurfio â chais i ad-dalu £3,450, ar ôl i ymchwiliad ganfod ei fod wedi camddefnyddio adnoddau trethdalwyr yn ystod ymgyrch etholiadol Cyngor Caerdydd.

Apeliodd yn erbyn canfyddiadau’r ymchwiliad, a thri ymchwiliad arall sy’n nodi ei fod wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru, yn aflwyddiannus.

Daeth pwyllgor safonau’r Senedd i’r casgliadau hyn ym mis Chwefror 2021, ond yn sgil yr apêl eu herbyn, ni chawson nhw eu cyhoeddi tan nawr.

Mae’r cyn-Aelod o’r Senedd ac arweinydd Plaid Propel wedi dweud nad yw’n bwriadu talu’r swm, ac nad oes arno ef “ddim byd i neb”.

Yn ôl yr ymchwiliadau, fe wnaeth Neil McEvoy ddwyn anfri ar y Senedd hefyd wrth wneud recordiadau cyfrinachol o ymchwiliad i’w ymddygiad.

Yn dilyn cwyn fod Neil McEvoy wedi camddefnyddio adnoddau’r Senedd, fe recordiodd e sgyrsiau gyda Syr Roderick Evans – y cyn gomisiynydd safonau – yn gyfrinachol.

Yn y recordiau hyn, roedd modd clywed Syr Roderick Evans yn dweud bod gan Neil McEvoy “dueddiadau sociopathig”, a bu’n rhaid i’r cyn-gomisiynydd ymddiswyddo ar ôl i Neil McEvoy anfon trawsgrifiadau o’r cyfarfodydd i’r cyfryngau ym mis Tachwedd 2019.

Tra bod y pwyllgor safonau’n derbyn bod sylwadau Syr Roderick Evans yn “annoeth”, cafodd gweithredoedd Neil McEvoy eu disgrifio fel rhai “hollol amhriodol”.

Torri’r rheolau

Roedd yr adroddiadau yn dweud bod Neil McEvoy wedi torri’r rheolau yn sgil y gweithredoedd canlynol:

  • Camddefnyddio adnoddau’r Senedd, sef defnyddio adnoddau’r Senedd at ddibenion plaid wleidyddol ac etholiadol mewn perthynas ag isetholiad ward Grangetown Cyngor Caerdydd ym mis Tachwedd 2016 ac etholiadau lleol Cyngor Caerdydd ym mis Mawrth 2017.
  • Camddefnyddio adnoddau’r Senedd, sef defnyddio cyfeiriad e-bost y Senedd i ddelio â materion sy’n ymwneud yn benodol â Chyngor Sir Caerdydd.
  • Methu â datgan budd perthnasol mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Deisebau.
  • Torri’r egwyddorion uniondeb, gonestrwydd, ac arweinyddiaeth yn y Cod Ymddygiad trwy gynnal recordiadau cudd ar ystâd y Senedd.

‘Cyfiawnder’

“Ym mis Mai 2016, gwneuthum y camgymeriad o feddwl fy mod, fel Gwleidydd Plaid Cymru, wedi cael fy ethol i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ac i fod yn wleidydd gwrthblaid,” meddai Neil McEvoy wrth ymateb yn ei flog diweddaraf.

“Cefais wybod yn gyflym mai fy ngwaith oedd peidio â siglo’r cwch, peidio datgelu sgandalau, ond i wneud yr hyn a ddywedwyd wrthym.

“Os bydd unrhyw un byth yn cael cyfle i edrych ar yr holl ddogfennau ynglŷn â’r cwynion yn fy erbyn, byddan nhw’n gweld bod y cwynion wedi newid wrth i’r broses fynd yn ei blaen.

“Fe’m cyhuddwyd yn gyntaf o gynhyrchu 250,000 o daflenni ar argraffydd y Cynulliad.

“Dangosodd cipolwg ar y fanyleb gweithgynhyrchu fod hyn yn amhosibl.

“Yn y pen draw, cafodd y cyfanswm ei leihau i ychydig filoedd.

“Pan oeddwn yn y Senedd, rhoddais fy lwfans cynghorwyr i wahanol achosion.

“Nid wyf yn cael fy ysgogi gan arian.

“Ar sail cyfiawnder, nid wyf yn bwriadu talu’r swm hwn, does arna i ddim byd i neb.

“Y da yn hyn oll yw i Propel gael ei eni.

“Mae Propel yn fudiad syml, egwyddorol ac yn benderfynol o roi dewis llawer gwell i Gymru ar gyfer ein holl ddyfodol.

“I’r gad.”

Cefndir

Cafodd Neil McEvoy ei ethol yn Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru yn 2016.

Fodd bynnag, ym Mawrth 2017 cafodd ei wahardd dros dro wedi i dribiwnlys ei gael yn euog o ymddygiad oedd yn bwlio aelod o staff Cyngor Caerdydd.

Cafodd ei adfer i’w safle cyn iddo gael ei wahardd yn barhaol yn ddiweddarach.

Yn dilyn hynny, fe ffurfiodd blaid o’r enw Propel ond ni chafodd ei ail-ethol i’r Senedd yn 2021.

Mae’n dal i gynrychioli ward y Tyllgoed, Caerdydd, fel cynghorydd.