Mae cymdeithas dai o’r gogledd wedi cael eu dewis i lywio cynllun peilot Llywodraeth Cymru yn Nwyfor.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio a gafodd ei lofnodi gan y llywodraeth a Phlaid Cymru, roedd ymrwymiad i roi £1 miliwn i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal, sy’n cynnwys Pen Llŷn ac Eifionydd.

Ers i’r prosiect peilot gael ei lansio ym mis Ionawr, mae Grŵp Cynefin wedi eu dewis i weithio gyda chymunedau’r ardal er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn lleol.

Yn ôl ystadegau a gafodd eu cyhoeddi’r llynedd, cafodd “bron i hanner” y tai ar y farchnad yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn 2020 eu gwerthu fel ail gartrefi.

Roedd y data gan Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos fod 44% o’r eiddo a gafodd ei werthu yn yr etholaeth yn 2020-21 wedi’i ddosbarthu yn y categori Cyfraddau Uwch – lle byddai’r mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu gwerthu fel ail gartrefi.

Ar y pryd, fe wnaeth yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor, sydd hefyd yn llefarydd tai i Blaid Cymru, alw’r ystadegau’n “frawychus”, gan ymbil ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith.

Penodi uwch swyddog newydd

Yn ôl ffigyrau Hwyluswyr Tai Gwledig Grŵp Cynefin, mae cymaint â 95% o bobol yn methu â fforddio prynu tŷ yn Abersoch, 79% yn Aberdaron, a 68% ym Morfa Nefyn.

Gwynedd sydd â’r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru, gyda chyfanswm o 5,098 yn y sir i gyd – sydd tua un i bob deg o’r holl stoc dai.

Ers sefydlu yn 2014, mae Grŵp Cynefin wedi darparu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel i dros 8,000 o bobol yn siroedd y gogledd a gogledd Powys.

Yn rhan o gynlluniau’r gymdeithas dai ar gyfer Dwyfor, mae Uwch Swyddog Tai Cymunedol wedi ei benodi am dair blynedd i gasglu gwybodaeth am yr angen am dai, hyrwyddo tai dan arweiniad y gymuned, a chreu prosiectau tai cydweithredol fydd o fudd i’r gymuned i gyd.

Bydd disgwyl i’r uwch swyddog gydweithio gyda Chyngor Gwynedd a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn diwallu’r angen am gartrefi i bobol leol.

Yn ystod y tair blynedd, bydd sgyrsiau ar lawr gwlad gyda chynghorau cymuned, cymdeithasau a sefydliadau lleol yn cael eu cynnal yn gyson, er mwyn adnabod safleoedd a allai fod yn addas ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy.

Mae disgwyl i’r uwch swyddog gael ei benodi yn yr wythnosau nesaf.

‘Torri tir newydd’

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Grŵp Cynefin, Carys Edwards, fe “all y cynllun peilot hwn yn Nwyfor ddangos y ffordd i weddill Cymru”.

“Mae’n fraint bod yn rhan ohono,” meddai.

“Mae ein tîm o Hwyluswyr Tai Gwledig profiadol yn falch o allu rhannu eu profiad fel arweinwyr ym maes datblygu tai gwledig a byddant yn cydweithio’n agos gyda’r uwch swyddog newydd.”

Fe soniodd prif weithredwr y gymdeithas dai, Shan Lloyd Williams, bod Grŵp Cynefin yn “falch o dorri tir newydd, bod yn uchelgeisiol a chael bod yn rhan o gynllun y Llywodraeth gan weithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd”.

‘Cymhleth ac emosiynol’

Y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James, sydd â chyfrifoldeb ar gyfer tai yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi galw am y cynllun yn Nwyfor.

“Mae gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri ac, wrth gwrs, Grŵp Cynefin, yn hanfodol i lwyddiant y peilot,” meddai.

“Rydym yn awyddus i wreiddio’r peilot yn Nwyfor gan gynorthwyo i ddatblygu cyfleoedd go iawn i bobol leol a dod o hyd i atebion ymarferol a fydd yn eu helpu i fyw’n fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

“Mae’r pwnc ail gartrefi yn gymhleth ac yn un emosiynol, ond rydym yn cymryd mwy o gamau yma nag mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol.

“Bydd cael Uwch Swyddog Tai Cymunedol wedi ei sefydlu yn Nwyfor yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â’r gwaith.”