Wrth i luoedd Rwsia lifo mewn i’r Wcráin, mae’r Athro Stuart Cole, cadeirydd Undeb Cymru a’r Byd, yn dweud nad dyma’r tro cyntaf i’r wlad gynllwynio i ymosod a goresgyn un o’i chymdogion.

Treuliodd yr Athro Stuart Cole gyfnod yn gweithio yn Estonia ar brosiectau i’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y 90au.

Ac yntau wedi dilyn y sefyllfa yn yr Wcráin yn agos ers rhai blynyddoedd, mae’n gweld tebygrwydd ym mholisi Rwsia tuag at y wlad dros y blynyddoedd i’r hyn a welodd tra’r oedd yn Estonia.

“Wrth ddarllen am yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Wcráin dros y blynyddoedd diwethaf, roedd yn fy atgoffa i pan o’n i yn Estonia ar ôl i’r Undeb Sofietaidd gwympo,” meddai wrth golwg360.

“Fe anfonodd Rwsia tua 300,000 o’u pobol i ddwyrain Estonia – tua thraean poblogaeth Estonia – oedd wedyn yn cael ei alw yn y ‘Forbidden land’ gan bobl Estonia.

“Wrth gwrs, roedd yr Undeb Sofietaidd wedi dod i ben ac roedd Estonia ar ei ffordd i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

“Ond yn Estonia ei hun, dim ond tua 61% o’r boblogaeth oedd yn dod o Estonia tra bod y gweddill yn dod o Rwsia.

“Roedd pobl Estonia ar y pryd yn poeni’n ofnadwy y byddai Rwsia yn gwneud annexation o’r ardal yna yn Estonia

“Digwyddodd e ddim gan fod Estonia wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ond mae 25% o boblogaeth y wlad yn dal i ddod o Rwsia.”

“Ddim yn syniad newydd”

Dywedodd yr Athro Stuart Cole ei bod hi’n edrych fel bod yr ardaloedd yn nwyrain yr Wcráin yn wynebu’r un sefyllfa ag Estonia yn y 90au.

“Dyna oedd y syniad oedd ganddyn nhw yn Estonia, yr un oedd y cynllun,” meddai.

“Mae’n edrych i mi fel nad hwn yw’r tro cyntaf mae Rwsia wedi trio gwneud rhywbeth fel hyn.

“Dydy e ddim yn syniad newydd.”

“Gwrthsefyll yn gadarn”

Fore heddiw, (dydd Iau, Chwefror 24) cafodd ffrwydradau eu clywed yn ninasoedd Kyiv, Kharkiv, Dnipro ac Odesa, a rhybuddiodd y newyddiadurwr Paul Mason, a fu yn yr Wcráin gydag Adam Price a Mick Antoniw dros y dyddiau diwethaf, bod rhaid i bobol fod yn barod i weld y brifddinas “yn ffrwydro fel Baghdad”

Brynhawn heddiw, dywedodd un o weithwyr Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig bod milwyr Rwsia a oedd wedi’u lleoli ym Melarws yn symud tuag at Kyiv.

Mae Rwsia wedi ymosod o’r awyr ar faes awyr ar gyrion Kyiv, meddai’r datganiad, ac ymosodiadau wedi “digwydd ar y tir, drwy’r awyr, a thrwy daflegrau o’r môr”.

Yn ôl y diweddariad, mae ymosodiadau wedi bod yn targedu seilwaith milwrol yr Wcráin, ond mae lluoedd yr Wcráin wedi “gwrthsefyll yn gadarn ac yn dal eu gafael ar ddinasoedd allweddol”.

Mae yna golledion ar y ddwy ochr, meddai, ond nid yw’r union rifau’n hysbys ar hyn o bryd.

Paul Mason

Adam Price, Mick Antoniw a’r Wcráin: sgwrs gyda’r newyddiadurwr Paul Mason ar ôl dod adre’n ôl

Alun Rhys Chivers

Cyn-olygydd gyda Channel 4 a Newsnight y BBC yn siarad â golwg360 wrth ddod adref o’r Wcráin gydag arweinydd Plaid Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru
Adam Price Mick Antoniw

“Rhaid i’ch darllenwyr fod yn barod i weld y brifddinas Kyiv yn ffrwydro fel Baghdad”

Alun Rhys Chivers

Y newyddiadurwr Paul Mason, aeth fel rhan o ddirprwyaeth i’r Wcráin oedd yn cynnwys Adam Price a Mick Antoniw, yn darogan beth fydd yn digwydd nesaf

“Yr oriau tywyllaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd”: Rwsia yn ymosod ar yr Wcráin

“Mae pŵer niwclear mawr wedi ymosod ar gymydog, ac mae’n bygwth dial ar unrhyw wladwriaeth arall a allai ddod i’w hachub”