Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio pobol yn ardal Bangor i fod yn wyliadwrus wedi achosion o sbeicio yno yn ddiweddar.

Roedd honiadau gan sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol yn sôn am brofiadau o gael eu sbeicio yng nghlwb nos Cube dros y penwythnos diwethaf.

Dywedodd yr Heddlu y byddan nhw’n cynyddu eu gweithgarwch yn yr ardal drwy batrolio’r strydoedd ac archwilio unigolion yn amlach er mwyn atal ymosodiadau rhag digwydd.

Maen nhw hefyd yn annog pobol i ddweud wrthyn nhw am unrhyw ymddygiad neu weithredoedd amheus, ac osgoi rhannu gwybodaeth am achosion ar gyfryngau cymdeithasol rhag ofn y bydd hynny’n effeithio ar ymchwiliadau.

‘Diogelwch cwsmeriaid yn allweddol’

“Rydyn ni wedi derbyn adroddiadau’n ddiweddar am sbeicio mewn clybiau nos yn ardal Bangor,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.

“O ganlyniad i hyn, bydd casgliad o swyddogion mewn gwisg heddlu a heb wisg heddlu ar batrôl yn yr ardal.

“Mae clybiau nos yn yr ardal yn cydweithredu â ni i bwysleisio bod diogelwch eu cwsmeriaid yn allweddol, a bod mesurau’n cael eu rhoi mewn lle i’n galluogi ni i wneud hynny.

“Mae staff diogelwch yn cynyddu’r archwiliadau maen nhw’n eu gwneud wrth gael mynediad i’r lleoliadau, ac mae yna aelodau dynodedig o staff ar gael i helpu os oes rhywun yn credu eu bod nhw wedi cael eu sbeicio.”

Roedd yr Heddlu yn pwysleisio tri cham y gallai unigolion eu cymryd i gadw’n ddiogel pan maen nhw ar noson allan, sef bod yn wyliadwrus, adrodd am unrhyw ymddygiad amheus i staff neu’r heddlu, a bod yn ymwybodol o unrhyw beth sy’n cael eu cynnig gan ddieithriaid.

‘Ddim yn cofio dim byd’

Dywedodd un fyfyrwraig ifanc a gafodd ei sbeicio yng nghlwb nos Cube dros y penwythnos diwethaf ei bod hi’n teimlo’n “hollol iawn” yn cyrraedd y clwb, ond wedyn “nad oedd hi’n cofio dim byd ar ôl cael ei gadael i mewn i’r clwb”.

Fe soniodd ar y cyfryngau cymdeithas am sut oedd hi wedi “teimlo’n sâl drwy’r nos”, ac yn “cwympo i gysgu a disgyn yng nghanol y clwb.”

Roedd ei ffrind yn honni bod un o’r doctoriaid yn yr uned ddamweiniau ac achosion brys wedi gwrthod rhoi prawf iddi gan eu bod nhw’n “rhy ddrud,” ond eu bod nhw wedi cadarnhau iddi gael ei sbeicio y noson honno.

Mae’n debyg ei bod hi wedi clywed am o leiaf pedwar achos o sbeicio yn y clwb nos dros y penwythnos diwethaf.

Er eu bod nhw’n pwysleisio eu cefnogaeth i ddioddefwyr, roedd yr Heddlu yn annog unrhyw un sydd wedi cael eu sbeicio i beidio datgelu hynny ar gyfryngau cymdeithasol, oherwydd y gallai effeithio ar unrhyw ymchwiliad.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi dod yn ymwybodol o ddioddefwyr yn datgelu achosion o sbeicio ar gyfryngau cymdeithasol cyn adrodd i’r heddlu,” meddai’r heddlu wedyn.

“Bydden ni’n cynghori’n gryf yn erbyn hyn, ac yn annog pobol i ddweud wrthym ni yn gyntaf.”

Mae golwg360 wedi gofyn i glwb nos Cube ym Mangor am sylw.