Dyw bygythiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno sancsiynau ar Rwsia “yn amlwg heb weithio”, yn ôl Plaid Cymru.
Mae’r blaid hefyd yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o fethu â mynd i’r afael ag arian Rwsiaidd sy’n “llifo drwy Lundain”.
Daw hyn wrth i’r blaid alw am hollti holl gysylltiadau ariannol y Deyrnas Unedig â Rwsia yn dilyn eu hymosodiad ar yr Wcráin.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i rwystro cwmnïau o Rwsia rhag gwneud elw o restru ar gyfnewidfa stoc Llundain, hefyd.
Nid Plaid Cymru yw’r unig rai sy’n credu nad yw sancsiynau San Steffan yn ddigon llym.
Mewn colofn yn y Guardian ddydd Mawrth (Chwefror 22), dywedodd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, bod y Llywodraeth yn “cosbi’r pysgod bychain, ond yn caniatáu i’r siarcod nofio’n rhydd”.
“Methiant”
“Mae ymosodiadau Putin ar Wcráin dros nos yn erchyll ac yn anghyfreithlon,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’n amlwg nad yw’r bygythiad o sancsiynau wedi gweithio, ac mae methiant Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r arian o Rwsia sy’n llifo drwy Lundain wedi chwarae rhan wrth gryfhau sefyllfa Putin.
“Mae embargo masnach a buddsoddi eang a gwrthdroi’r holl gysylltiadau ariannol yn hanfodol er mwyn tarfu ar ryfel Putin a gosod baich annioddefol ar Rwsia.
“Mae Cymru’n sefyll mewn undod â’r Wcráin a’i phobl.
“Fel cenedl sy’n noddfa, mae gennym ddyletswydd i fod yn barod i groesawu a chynnig cymorth i’r sawl sy’n ffoi o’r Wcráin ar yr adeg erchyll hon.”
“Cydsefyll”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Gymru i gydsefyll â’r Wcráin hefyd, ac eisiau i’r Senedd gael ei goleuo gyda lliwiau fflag y wlad.
“Mae Rwsia Putin yn ymddwyn fel bwli, ac mae’n rhaid sefyll yn erbyn pob bwli. Mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig ac ein cynghreiriaid ymateb yn benderfynol a defnyddio pob ffordd bosib i gefnogi’r Wcráin,” meddai Samuel Kurtz AoS.
“Mae sofraniaeth yr Wcráin wedi cael ei fygwth, a bydd sifiliaid diniwed yn cael eu lladd yn sgil awydd Rwsia am wrthdaro.
“Er na all Cymru wneud dim byd yn uniongyrchol, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n dangos ein bod ni’n cydsefyll â’r Wcráin a dangos ein hymrwymiad i ddemocratiaeth dros y byd.”
“Mae heddiw’n ddiwrnod llwm yn hanes Ewrop. Mae’n rhaid i ni gyd weithio er mwyn gwarchod rhyddid, democratiaeth, a sofraniaeth yr Wcráin.”
Darllen mwy: