Bydd pedair gorymdaith i’w cynnal dros bedwar diwrnod ar Ynys Môn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni.

Mae’r gorymdeithiau yn gyfle i bobol ifanc yr ynys ddathlu, meddai Menter Môn, sy’n cydlynu’r gweithgareddau.

Fe fydd Elin Fflur, y Moniars, Tesni Hughes, a Rhys Owain Edwards, canwr Fleur de Lys, yn diddanu’r torfeydd ar ddiwedd y pedair gorymdaith yng Nghaergybi, Biwmares, Llangefni, ac Amlwch.

Mr Urdd, Band Pres Biwmares, y Band Samba, a Selog fydd yn arwain y gorymdeithiau, a fydd yn dechrau ar 1 Mawrth.

“Dyfodol cymunedau Môn”

Dywedodd Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Môn, bod y gorymdeithiau yn gyfle i bobol ifanc ddangos eu balchder yn eu hunaniaeth Gymraeg.

“Mae’r bobol ifanc wedi gorfod ymdopi gyda chymaint o heriau yn ystod y pandemig, felly hyfryd iddyn nhw gael edrych ymlaen at gyd-ddathlu yn yr awyr agored,” meddai Elen Hughes.

“Rhain yw dyfodol cymunedau Môn ac mae dod allan i’w cefnogi, wrth dangos eu balchder yn eu hunaniaeth Gymraeg, am fod yn donic i ni oll o bob oed.

“Felly dewch i gefnogi gyda’ch crysau, hetiau neu faneri, er mwyn i ni gael cyd-ddathlu diwrnod ein nawddsant unwaith eto.”

Bydd yr orymdaith gyntaf yn cael ei chynnal yng Nghaergybi, gan ddechrau o Eglwys Santes Fair am 10 y bore ar 1 Mawrth.

Mae draig y môr “ryfeddol” wedi cael ei chreu i’w chario ar yr orymdaith, a bydd band samba’n ymuno â’r criw.

Ar 2 Mawrth, bydd gorymdaith Biwmares yn dechrau o’r Ganolfan Hamdden am 10 y bore, gorymdaith Llangefni yn dechrau o faes parcio’r ‘dingle’ am 10 y bore ar 3 Mawrth, a’r orymdaith olaf yn dechrau o faes parcio Stryd Salem yn Amlwch am 10 y bore ar 4 Mawrth.

Mae galwadau wedi bod i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc, ac mae nifer o fentrau cymunedol, gan gynnwys Menter Môn, wedi penderfynu rhoi diwrnod o wyliau i’w gweithwyr eleni.

Bydd gweithwyr Parc Cenedlaethol Eryri a gweithwyr Cyngor Gwynedd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau hefyd, ond mae’r penderfyniad wedi arwain at ffraeo ymysg cynghorwyr y sir.