Ar gychwyn 2022 mae’r hen ffrae am gael diwrnod o wyliau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi wedi codi ei phen unwaith eto.

Mae pobol yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn cael gwyliau banc i ddathlu eu nawddseintiau, Andrew a Patrick.

Ond nid felly eu cefndryd Celtaidd… ydy, mae’r Cymry yn dal i aros am yr hawl gan Lywodraeth Prydain i gael troi Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau.