Mae’n siŵr mai fi sy’n dwp o ran cymhlethdodau economeg, ond wnes i erioed ddeall sut y gall cyfnewid carbon – carbon offset – helpu i achub y blaned.

Os rhywbeth, mi fyddwn i’n dweud ei fod yn fwy tebyg o hybu llygredd a defnydd o garbon nag fel arall.

Mae’n fath o adlais modern o arfer yr hen eglwys Gatholig o werthu maddeuant – am ychydig arian, roedd modd prynu tawelwch meddwl a sicrwydd o docyn i’r nefoedd waeth faint oedd swm eich pechodau.