Thomas Herbert o Ben-y-bont ar Ogwr yw Cogydd Cenedlaethol newydd Cymru.
Mae’r chef de partie 24 oed yn gweithio yng Ngwesty a Spa Lucknam Park yn Chippenham, a derbyniodd Dlws y Ddraig ym Mhencampwriaethau Coginio Cenedlaethol Cymru yn Llandudno neithiwr (24 Chwefror).
Curodd bedwar cogydd arall, gan ennill £1,000 a bydd yn cynrychioli Cymru yn rownd Gogledd Ewrop yn Her Ryngwladol Cogyddion Worldchefs.
Dywedodd Thomas Herbert ei fod yn hapus iawn â’i brydau, ond nad oedd yn disgwyl ennill.
“Mae’n golygu lot i fi, oherwydd dw i’n Gymro balch, a fy mreuddwyd yw dychwelyd i Gymru yn y pendraw ac agor fy mwyty fy hun.”
Dyma’r trydydd tro i gogydd o Westy Lucknam Park dderbyn y teitl, gyda Thomas Herbert yn dilyn ôl troed Ben Taylor a Thomas Westerland.
Y Cymro Hywel Jones yw prif gogydd y gwesty, a dywedodd Thomas Herbert bod yr holl wobrau’n dangos “yr amser mae Hywel Jones yn ei roi i ni ac yn creu calibr gwych o gogyddion”.
“Dw i’n ddyledus iddo am y fuddugoliaeth hon, ac i fy nirprwy gogydd, Jamaar Sempter, a wnaeth fy helpu yn y rownd derfynol.”
“Rhyfeddol”
Yn y rownd derfynol, roedd gan y cogyddion bum awr i baratoi bwydlen pedwar pryd i ddeuddeg person, gan ddefnyddio cynhwysion o Gymru’n bennaf.
Dywedodd cadeirydd y panel beirniadu, Colin Gray, bod prydau Thomas Herbert yn “rhyfeddol” ac “yn llawn blas”.
“Mae’n enghraifft dda o sut mae dulliau coginio da wedi datblygu ac aeddfedu.
“Mae cael rhywun mor ifanc yn cystadlu ac yn ennill yn erbyn cogyddion mwy profiadol yn rhywbeth i’w edmygu.”