Mae cynlluniau i wahardd priodasau plant yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu galw’n “gam enfawr i’r cyfeiriad cywir” wrth iddyn nhw glirio’r rhwystr olaf yn Nhŷ’r Cyffredin.

Byddai’r Bil Priodas a Phartneriaeth Sifil (Isafswm Oedran) yn codi isafswm oedran priodas i 18 yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn awr yn cael ei ystyried gan Dŷ’r Arglwyddi.

Wrth noddi’r Bil, dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Pauline Latham:

“Nid yw’n bosibl gwadu bod y newid yn y gyfraith hon, gan ei gwneud yn gwbl glir y bydd yn anghyfreithlon trefnu unrhyw briodas i blentyn, boed yn fachgen neu’n ferch, yng Nghymru a Lloegr waeth beth fo’r caniatâd, gorfodaeth neu berswâd honedig, yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir.

“Oherwydd mae llawer o blant yn cael eu magu i gredu mai dyna’r norm er nad yw hi’n arferol i fod yn briod fel plentyn yn wlad hon, a bydd hyn yn anfon neges enfawr allan.

“Dyma ddiben y Bil hwn.”

Nododd Pauline Latham, sy’n cynrychioli Canolbarth Swydd Derby bod y “gyfraith bresennol gyda ni ers dros 70 mlynedd ac mae’n adlewyrchu gwerthoedd cymdeithasol o adeg wahanol”.

Byddai’r Bil, o ystyried trydydd darlleniad diwrthwynebiad yn Nhŷ’r Cyffredin, hefyd yn ei gwneud yn drosedd, y gellir ei chosbi gyda hyd at saith mlynedd o garchar, i “achosi plentyn i ymrwymo i briodas”.

Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws erlyn rhieni neu aelodau o’r teulu sy’n anfon pobl dan 18 oed dramor i briodi.

“Cam hollbwysig”

Cafodd y Bil hefyd ei diwygio i atal pobl ifanc 16 ac 17 oed o Gymru a Lloegr rhag cael eu cludo i Ogledd Iwerddon neu’r Alban a’u gorfodi i briodi yno.

Fe wnaeth Pauline Latham hefyd groesawu’r newyddion bod Gogledd Iwerddon yn bwriadu ymgynghoriad ar godi oedran cyfreithiol priodas i 18.

Cafodd y Bil gefnogaeth drawsbleidiol, gyda gweinidog cyfiawnder cysgodol Llafur, Anna McMorrin, yn dweud:

“Mae’r ffaith bod yn rhaid i berson ifanc aros mewn addysg nes ei fod yn 18 oed ond yn gallu priodi yn 16 oed yn ddryslyd ac nid oes ganddo le yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae’r Bil hwn yn gam hollbwysig a sylweddol ymlaen o ran cywiro hyn ac ar ran yr Wrthblaid, rwy’n dymuno’n dda iddo yn y camau sy’n weddill.”