Mae cymuned wledig ym Meirionnydd wedi galw ar y cwmni band llydan Openreach i ailddechrau eu cynlluniau Partneriaeth Cymunedol Ffibr.

Cafodd yr holl gynlluniau i ddarparu rhwydwaith ffibr cymunedol eu gohirio am gyfnod anhysbys yn ddiweddar ar ôl i’r cwmni weld y galw yn tyfu y tu hwnt i’w gallu.

Roedd trigolion yn ardal Brithdir ger Dolgellau wedi sicrhau cyllid i ddatblygu eu rhwydwaith eu hunain cyn i’r rhaglen gael ei gohirio, ac fe wnaethon nhw’r cais priodol ar gyfer datblygu’r dechnoleg.

Dywed un sy’n byw’n lleol fod Openreach wedi bod yn dawel ynglŷn â’r cynlluniau ers peth amser cyn iddyn nhw gyhoeddi y byddai eu holl gynlluniau yn cael eu rhoi ar stop.

Fe wnaeth Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, adleisio galwad y trigolion yn ddiweddar, gan ddweud eu bod nhw wedi eu “siomi” gan yr oedi, ac y dylid ailddechrau ar y gwaith o ddarparu’r dechnoleg ar unwaith.

‘Nid ydym yn cael digon o wybodaeth’

Mae Stuart Marsh yn un o’r trigolion ym Mrithdir sydd ynghlwm â’r cynlluniau i ddarparu ffibr cymunedol yn yr ardal.

“Roeddwn wedi bod yn mynd ar ôl y cynllun Ffibr Cymunedol trwy gydol fis Rhagfyr, ond roedden nhw’n dawel iawn – clywais ddim ganddynt,” meddai.

“Roeddwn i wedi bod yn mynd ar eu holau am sawl peth gwahanol ac wedi clywed dim byd yn ôl, pan yn y gorffennol roedden nhw’n eithaf sydyn yn ymateb.

“Yn y diwedd, cawsom neges i ddweud bod pob prosiect Ffibr Cymunedol wedi’i ohirio. Roeddem wedi sicrhau’r cyllid angenrheidiol ond dywedwyd wrthym ychydig ar ôl y Nadolig fod yr holl brosiectau wedi’u gohirio.

“Nid ein prosiect ni’n unig a effeithiwyd arno. Roedd yr holl brosiectau ar stop, ond ni roddwyd unrhyw reswm. Nid ydym yn cael digon o wybodaeth.

“Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen gyda gwahanol brosiectau ers cyn dechrau’r pandemig Covid.

“Rydyn ni wedi cael addewid ac addewid o bethau gwahanol. Rydyn ni’n cyrraedd mor bell. Rydyn ni’n cyrraedd y pwynt o fod bron yno ac mae’n dod i stop, a dyna’r peth rhwystredig.”

‘Rhwystredig’

Mae Liz Saville Roberts yn teimlo bod cymunedau gwledig “dan anfantais anghymesur” wrth ystyried cysylltiad at y we.

“Rwy’n bryderus iawn bod Openreach wedi cymryd y penderfyniad i ohirio eu holl gynlluniau ffibr cymunedol,” meddai.

“[Mae hwn yn] gam a fydd, yn ddealladwy, yn siomi llawer o gymunedau fel trigolion Brithdir yn fy etholaeth a gafodd eu harwain i gredu bod eu cynllun yn mynd rhagddo.

“Ar ôl cyrraedd y pwynt hwn yn y broses a chyda’r cyllid angenrheidiol yn ei le, mae fy etholwyr yn rhwystredig, fel finnau, gyda’r penderfyniad sydyn i ohirio’r holl gynlluniau ffibr cymunedol presennol, gan gynnwys y rhai sydd bron wedi’u cwblhau.

“Rwy’n annog Openreach i roi eglurder ar unwaith i’m hetholwyr ac eraill yn yr un sefyllfa ynghylch statws eu cynllun ffibr cymunedol ac amserlen realistig a dibynadwy ar gyfer cwblhau’r gwaith.

“Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel rhannau o Ddwyfor Meirionnydd eisoes dan anfantais anghymesur o ran cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy.

“Bydd yr oedi i’r cynllun penodol hwn sy’n ceisio cysylltu’r rhai nad ydynt yn gymwys yn fasnachol neu trwy’r llywodraeth i gael band eang ffibr yn gwaethygu’r sefyllfa, gan waethygu ymhellach y bwlch digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol.”