Mae sawl asiantaeth yn parhau i chwilio am ddynes 96 oed o’r enw Rita sydd ar goll o Aberhonddu ers dydd Sadwrn (Chwefror 26).

Mae’n bosib ei bod hi’n gwisgo siaced wlân â dail arni, ac mae lle i gredu ei bod hi ar droed.

Chafodd hi ei gweld ddiwethaf am 10.20 fore Sadwrn.

Mae timau’r heddlu, achub mynydd, y gwasanaeth tân a hofrenyddion yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani.

Mae’r heddlu’n gofyn i bobol chwilio amdani mewn adeiladau allanol megis eu garej neu sied rhag ofn ei bod hi wedi ceisio lloches rhag y tywydd, ac i edrych ar ddeunydd fideo rhag ofn ei bod hi i’w gweld yn y fan honno.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi ei theulu ac yn apelio, gan ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.