Mae symposiwm yn cael ei gynnal heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 1) i ddathlu ymchwil cyfrwng Cymraeg gan nodi degawd ers sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd yn rhoi’r cyfle i Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Met Caerdydd i arddangos eu gweithgareddau ymchwil eang sy’n cael eu cynnal o ganlyniad uniongyrchol i gefnogaeth y Coleg, wrth i academyddion ac ymchwilwyr o’r sefydliadau hynny gyflwyno ar bynciau sy’n cynnwys treftadaeth, amlddiwylliannedd a’r Gymraeg yn y dirwedd, cemeg, rol iaith frodorol mewn newid ymddygiad, a pherfformio a theatr er lles y gymuned.

Bydd trafodaeth banel hefyd ar rôl a phwysigrwydd cymuned ymchwil cyfrwng Cymraeg.

Prif gynllun y Coleg i ddatblygu ymchwil cyfrwng Cymraeg yw ei Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil Ôl-raddedig, sy’n cyllido ymchwil PhD am gyfnod o dair blynedd.

O ganlyniad i’r cyllid hwn gan y Coleg, mae prifysgolion yn ne-ddwyrain Cymru wedi creu darnau pellgyrhaeddol o ymchwil sydd wedi dylanwadu ar ddarpariaeth addysg uwch, strategaethau cenedlaethol ac wedi galluogi degau o academyddion newydd i adeiladu eu gyrfaoedd.

“Mae’r Coleg yn hynod falch o gyfraniad y cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil i ysgolheictod cyfrwng Cymraeg,” meddai Dylan Phillips, Uwch Reolwr yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Drwy’r cynllun hwn rydym wedi cefnogi dros 150 o fyfyrwyr doethurol dros y degawd diwethaf – gan ymchwilio i bob math o bynciau pwysig a diddorol.  Rydym hefyd yn falch iawn o gefnogi’r prifysgolion yn Symposiwm Ymchwil De-ddwyrain Cymru, a bydd yn wych arddangos gwaith llawer o’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr disglair.”

Mae’r symposiwm ymchwil yn y Deml Heddwch, Parc Cathays rhwng 9:00yb a 1:00yp. Cofrestrwch yma (bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael, a bydd cinio’n cael ei ddarparu).