Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.

Maen nhw’n dweud y byddai gwneud Mawrth 1 yn ŵyl banc yn ffordd addas o ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, yn ogystal â rhoi hwb i’r economi a’r diwydiant twristiaeth.

Bydd y cynnig, sydd wedi cael ei gyflwyno gan holl bleidiau’r Senedd, yn cael ei drafod fory (dydd Mercher, Mawrth 2).

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y byddai creu gŵyl y banc newydd yn denu miloedd o ymwelwyr i Gymru, ac mae deiseb ddiweddar yn galw am ddiwrnod o wyliau wedi cael ei lofnodi dros 10,000 o weithiau.

Does gan Gymru ddim y grym i greu eu gwyliau banc eu hunain, a llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod galwadau Cyngor Gwynedd i greu gŵyl banc cenedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wfftio’r galwadau, gan honni bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i weithio er mwyn i’r cynllun lwyddo.

‘Uno’r wlad’

Ond yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, byddai’r newid yn rhoi hwb o filiynau o bunnoedd i economi Cymru ar ôl i astudiaeth o 2018 ddangos bod gwyliau banc yn rhoi hwb cyfartalog o £253 o elw i siopau bach.

“Dylai pobol dros Gymru allu mwynhau gŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi, a byddai’n amser gwych i uno’r wlad a dathlu ein treftadaeth ac ein diwylliant,” meddai Tom Giffard, llefarydd Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae gan bobol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ŵyl banc i ddathlu eu nawddsaint yno, felly mae hi’n amser i Gymru ddilyn a chael yr un peth i’n nawddsant ni.

“Yn anffodus, mae Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd wedi methu lobio Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gwneud hyn yn realiti, ac rydyn ni eisiau iddyn nhw weithio’n adeiladol gyda San Steffan er mwyn gwneud hyn.

“Mae yna fuddiannau economaidd a diwylliannol posib enfawr, a byddai gŵyl y banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn rhoi cyfle i ni hyrwyddo Cymru i weddill y byd.”

Mae gan Gymru a Lloegr saith gŵyl banc, tra bod gan yr Alban naw a Gogledd Iwerddon ddeg, a does gan Gymru ddim yr un pwerau datganoledig â’r Alban a Gogledd Iwerddon i greu gwyliau banc.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i ddatganoli’r pwerau i ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc i’r Senedd, ond mae’r galwadau wedi cael eu diystyru.