I nodi Dydd Gŵyl Dewi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 11 o brosiectau newydd i gefnogi twf y Gymraeg.
Mae’r cynlluniau mewn naw awdurdod lleol dros Gymru yn cynnwys sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd, cynyddu capasiti mewn ysgolion Cymraeg, sefydlu Canolfannau Trochi Cymraeg, ac ehangu’r ddarpariaeth trochi iaith.
Bydd y prosiectau sydd wedi’u henwi nawr yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Mae £1.2m ychwanegol hefyd wedi cael ei roi i’r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, er mwyn rhoi cymorth i’r sefydliad barhau â’i weithgareddau ar ôl effaith Covid-19.
Bydd y cyllid yn cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu yn yr Urdd ledled Cymru, ac yn rhoi cymorth i gynnal prentisiaethau cyfrwng Cymraeg o fewn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid yn ychwanegol at gyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mynediad i’r Eisteddfod yn Sir Ddinbych eleni yn rhad ac am ddim yr haf hwn.
‘Bodloni’r galw’
Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, fod cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg Gymraeg yn “hollol ganolog i feithrin twf y Gymraeg a’i defnyddio fwyfwy yn ein bywyd bob dydd”.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i fodloni’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, drwy gynyddu capasiti mewn ysgolion a throchi iaith,” meddai.
“Bydd y buddsoddiad yn ategu ein cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Mae creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn bwysig hefyd, boed hynny’n cystadlu yn gelfyddydol neu mewn chwaraeon, neu ymweld â’r Eisteddfod.
“Rwy’n falch, felly, o roi cymorth i’r Urdd dros y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt allu parhau â’r gwaith arbennig o agor drysau a rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc.
“Bydd yr holl weithgareddau hyn yn helpu i ni gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.”
Y prosiectau
Rhain fydd yr 11 o brosiectau cyfalaf sy’n symud ymlaen i’r cam nesaf o’r broses achos busnes ac yn gwneud cais am y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg:
Ysgol I D Hooson, Wrecsam – £6.3m
Ehangu’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg bresennol, gyda saith ystafell ddosbarth barhaol ychwanegol, gan greu lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol.
Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ceredigion – £5.7m
Creu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o ystafelloedd dosbarth newydd, a fydd yn ychwanegu lle i 30 o ddisgyblion ychwanegol yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mwcle / Mynydd Isa, Sir y Fflint – £5.6m
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd â chapasiti ar gyfer 150 o ddisgyblion llawn amser a hefyd lle i 30 o blant meithrin a 30 ar gyfer y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â gweithgareddau trochi yn y Gymraeg a dysgu i oedolion er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth gychwynnol cyfrwng Cymraeg.
Ysgol y Strade, Llanelli, Caerfyrddin – £4.4m
Canolfan Drochi Iaith Gymraeg bwrpasol a chapasiti ar gyfer 228 o leoedd cyfrwng Cymraeg, gan godi capasiti’r ysgol i 1,500 o leoedd.
Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr – £3.25m
Ysgol gynradd egin ar gyfer ardal Porthcawl, wedi ei chydleoli â chanolfan gofal plant cyfrwng Cymraeg arfaethedig.
Ysgol Caer Elen, Sir Benfro – £2.5m
Prosiect i gyllido lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol i 60 o ddisgyblion yn Ysgol Caer Elen yn y tymor hir.
Cynyddu capasiti ysgolion yng Ngwynedd – £1.875m
Cynyddu capasiti ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn cefnogi cymunedau cyfrwng Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol i ffynnu (cymunedau sydd â thros 70% o siaradwyr Cymraeg).
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ehangu capasiti mewn tair ysgol o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, sef Llanllechid, Penygroes a Chwilog.
Canolfannau Iaith yng Ngwynedd – £1.15m
I gyllido Cam 2 o’r prosiect, i gynyddu’r capasiti ac adleoli Canolfannau Iaith Llangybi a Dolgellau i leoliadau strategol o arwyddocâd ieithyddol, a chynyddu capasiti Canolfan Iaith Maesincla yng Nghaernarfon.
Bydd Canolfan Iaith Llangybi yn adleoli i Ysgol Cymerau, Pwllheli a bydd Canolfan Iaith Dolgellau yn adleoli i Ysgol Bro Idris, Dolgellau sy’n safle mwy o faint.
Ysgol y Creuddyn, Conwy – £914,000
Estyniad i Ysgol y Creuddyn. Cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer trochi disgyblion ar gyfer symud o addysg gynradd i addysg uwchradd yn y dalgylch lleol.
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr – £270,000
Dyblu maint yr ystafell ddosbarth symudol i ymdrin â’r galw am leoedd ar hyn o bryd hyd nes y bydd yr ysgol newydd wedi ei chwblhau, a disgwylir y bydd hynny yn 2025-26.
Ysgol Bro Edern, Caerdydd – £100,000
Bydd dosbarth trochi yn cael ei ddarparu drwy addasu dosbarthiadau presennol. Bydd y prosiect hefyd yn galluogi rhoi cymorth i 20 i 30 o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.