Ar drothwy ei ymweliad â Rhif 10 Downing Street heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 1), dywed Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru fod gan gig o Gymru “stori wych i’w hadrodd”.

Fel rhan o’r dathliad blynyddol o nawddsant Cymru yn Llundain, fe fydd Glyn Roberts yn hyrwyddo cynnyrch cig o Gymru, ond fe fydd e hefyd yn galw ar lywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan i roi mwy o gefnogaeth i ffermwyr yng Nghymru.

Fe wnaeth e rybuddio yn 2020 y gallai Brexit heb gytundeb fod yn “gatastroffi” i ffermwyr Cymru.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’n pryderu y byddai llofnodi rhai cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau is na’r Deyrnas Unedig yn “bygwth” y sector amaeth yng Nghymru, yn ogystal â’r amgylchedd.

‘Rhoi ein diwydiant ffermio yn gyntaf’

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi,” meddai Glyn Roberts.

“O gynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan weithredol wrth ofalu am ein hamgylchedd.

“Ac rydym am gadw ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd godidog a pharhau yn eu rôl fel gwarcheidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni a fyddai, o’u harwyddo, yn rhoi anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol.

“Felly, rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”

Cynnyrch Cymreig yn gyntaf

Ar drothwy’r digwyddiad yn Llundain, dywedodd Glyn Roberts bod gan gig eidion a chig oen o Gymru “stori wych i’w hadrodd.”

“Rwy’n falch o gynrychioli ein ffermwyr yma yn Llundain heddiw,” meddai.

“Gall cwsmeriaid sy’n fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu fod yn dawel eu meddwl bod cig eidion a chig oen o Gymru wedi’u ffermio gyda byd natur mewn golwg.

“Mae mor faethlon a chynaliadwy a phosib ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig yn gyntaf.”