Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi enwi’r llefydd gorau i weld cennin Pedr.

Ar y rhestr mae llefydd ym Mangor, Wrecsam, Llanerchaeron, a Chaerdydd lle bydd cennin Pedr yn eu blodau ddechrau mis Mawrth.

Mae’r gwanwyn yn dod

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae cennin Pedr yn tyfu mewn rhannau o Gymru yn barod, ond bydd y blodau, sy’n arwydd bod y gwanwyn ar y ffordd, ar eu gorau yng nghanol mis Mawrth.

Y llefydd gorau i weld cennin Pedr eleni:

Castell Penrhyn, Bangor

Mae hi’n bosib gweld llawer o gennin Pedr ar hyd yr ardaloedd coediog, ac o flaen ac ar hyd ochr y castell o flaen y tŵr. Mae’r blodau ar eu gorau o ganol mis Mawrth tan ddiwedd Ebrill.

Gardd Bodnant, Conwy

Mae cannoedd ar filoedd o fylbiau cennin Pedr wedi cael eu plannu gan genedlaethau o arddwyr ym Modnant ers y 1920au. Mae’r brif sioe yng Ngardd Bodnant yng nghanol mis Mawrth ac Ebrill.

Erddig, Wrecsam

Mae’r cennin Pedr ar eu gorau ar hyd y gamlas yn Erddig, neu mae’n bosib gweld llygad y ffesant, ‘Narcissus poeticus’, yng nhanol y coed conwydd a’r coed afalau yn hwyrach yn ystod y gwanwyn.

Castell y Waun, Wrecsam

Mae’r cennin Pedr yn un o’r uchafbwyntiau blynyddol yng ngardd Castell y Waun. Maen nhw wedi blodeuo’n barod, ond bydd y sioe ar ei gorau yn hwyrach ym mis Mawrth.

Castell Powis, Y Trallwng

Mae’r Narcissus Pseudonarcissus, y cennin Pedr Cymreig enwocaf, yn ffynnu yn eu miloedd yng Nghastell Powis. Ym mis Mawrth mae cennin Pedr naturiol wyllt yn blodeuo ar draws y lawnt.

Gardd Dyffryn, Caerdydd

Yn gynnar yn y tymor, mae’n bosib gweld cennin Pedr ifanc, ac yna erbyn canol mis Mawrth bydd miloedd ar filoedd ohonyn nhw yn yr ardd. Mae 50 o wahanol rywogaethau o gennin Pedr yma, ac mae un ohonyn nhw, sef y ‘Narcissus Dyffryn’ neu gennin Pedr Dyffryn, yn rhywogaeth sy’n arbennig i’r ardd ac yn enwog dros y byd.

Llanerchaeron, Ceredigion

Mae miloedd o gennin Pedr wedi dechrau ymddangos yn y coetir ar hyd glannau Afon Aeron, a byddan nhw yn eu blodau ganol fis Mawrth a thrwy fis Ebrill.

Tŷ Tredegar, Casnewydd

Drwy gydol mis Mawrth, mae cennin Pedr yn blodeuo o amgylch coeden gastan 250 mlwydd oed yn ngerddi Tŷ Tredegar.

 

Geirfa

Ymddiriedolaeth Genedlaethol National Trust

coediog wooded

cenedlaethau generations

camlas canal

coed conwydd conifers

uchafbwyntiau highlights

ffynnu to thrive

rhywogaeth species

coetir woodland

coeden gastan chestnut tree