Mae Menter Dinefwr wedi derbyn grant o £167,200 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu Canolfan Dreftadaeth arloesol.
Fe fydd y prosiect yn dathlu hanes tref Llandeilo a’r cyffiniau.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Menter Dinefwr yn sefydlu Canolfan Dreftadaeth arloesol yn adeilad Hengwrt, sef canolfan gymunedol amlbwrpas yng nghalon tref Llandeilo.
Wrth gydweithio â’r gymuned, bydd y Fenter yn arwain ar ddatblygu cyfres o arddangosfeydd arbennig yn yr adeilad hanesyddol, fel bod modd i drigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau cyfoeth o hanesion a straeon am yr ardal.
Mae aelodau’r gymuned eisoes wedi cyfrannu arteffactau arbennig, lluniau a dogfennau amrywiol i’r Ganolfan, a bydd rhai o’r rhain yn cael eu harddangos o fis Ebrill.
Yn ogystal, bydd y prosiect yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobol ifanc ddysgu am yr unigolion, sefydliadau a digwyddiadau sydd wedi siapio eu cynefin; ar ffurf gweithdai, digwyddiadau ac adnoddau digidol.
Menter Dinefwr
Cafodd Menter Dinefwr ei sefydlu yn 1999 fel menter gymunedol.
Amcan y fenter yw gweithio i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ac i gefnogi datblygiad cymunedol ac economaidd.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’r Fenter wedi tyfu’n sylweddol ac edrych a ymlaen at ddatblygu’r prosiect treftadaeth ar y cyd gyda’r gymuned leol.
Mae Elen Jones wedi’i phenodi i gydlynu’r prosiect, fel Swyddog Datblygu Treftadaeth.
“Edrychaf ymlaen yn arw at gydweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu’r Ganolfan Dreftadaeth yn Hengwrt,” meddai.
“Mae’n hollbwysig bod ffrwyth gwaith y prosiect yn cynrychioli profiadau a lleisiau’r bobol sydd wedi siapio’r dref – y cenedlaethau a fu a thrigolion heddiw.
“Ein gweledigaeth yw creu cyrchfan unigryw, bywiog a chroesawgar fydd yn adlewyrchu ysbryd arbennig Llandeilo, ddoe a heddiw.”
Dywed Owain Gruffydd, Prif Weithredwr Menter Dinefwr fod y prosiect yn “destun balchder” iddyn nhw yn Llandeilo.
“Testun balchder i ni fel Menter yw gweld adeilad hanesyddol mor bwysig nôl ar agor at ddefnydd cymunedol,” meddai.
“Edrychwn ymlaen at symud i’r cam nesaf, sef datblygu’r elfen dreftadaeth yn Hengwrt.
“Rydym yn hynod werthfawrogol o’r gefnogaeth yma ac mae tipyn o gyffro lleol ynghylch y prosiect.
“Rydym ni, fel y gymuned, yn awyddus i’w weithredu er mwyn dathlu treftadaeth a hanes diddorol ac aml-haenog Llandeilo a’r cylch.”
Hengwrt
Bydd yr arddangosfa gyntaf yn y Ganolfan Dreftadaeth yn canolbwyntio ar hanesadeilad Hengwrt ei hun, sydd erbyn hyn yn gartref i swyddfeydd Menter Dinefwr, siop lyfrau a nwyddau Cymreig Cyfoes, canolfan ymwelwyr ac ystafelloedd cyfarfod a chynadledda.
Yn un o adeiladau hynaf Llandeilo, mae gan Hengwrt stori ddifyr ac amrywiol ei hun.
Wedi ei adeiladu yn 1802, cafodd ei ddefnyddio ar hyd y blynyddoedd fel llys barn, cyfnewidfa grawn, marchnad, gorsaf heddlu, swyddfeydd, a chanolfan ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus.
Bydd y Ganolfan Dreftadaeth a’r arddangosfa yn agor i’r cyhoedd yn ystod y gwanwyn eleni.