Mae penderfyniad Vladimir Putin i roi grymoedd amddiffyn niwclear Rwsia ar “rybudd arbennig” yn dangos yr angen am ymgyrch ddiarfogi niwclear newydd a dwys, yn ôl un arweinydd Cristnogol.

Dros y penwythnos, fe wnaeth Arlywydd Rwsia godi’r lefel rhybudd oherwydd “datganiadau ymosodol” gan wledydd y Gorllewin.

Dydy’r cyhoeddiad ddim yn golygu eu bod nhw’n bwriadu defnyddio’r arfau, a dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y Deyrnas Unedig wrth y BBC ddoe (dydd Llun, Chwefror 28) fod codi’r rhybudd yn ymdrech gan y Kremlin i atgoffa’r byd fod ganddyn nhw rym niwclear i atal ymosodiad a thynnu’r sylw oddi ar yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin.

‘Hyrwyddo heddwch’

Dywed y Parchedig Beti Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cyfarfod mewn tua 350 capel ledled Cymru, y dylai bygythiad Vladimir Putin fod yn “ysgytwad i bob un ohonom ni”.

“Yn ei ymateb chwyrn i sancsiynau rhyngwladol yn erbyn Rwsia am ymosod ar yr Wcráin, mae Mr Putin wedi codi braw byd-eang drwy gyfeirio at arfau niwclear,” meddai.

“Ar wahân i straeon newyddion achlysurol am Iran a Gogledd Corea, efallai ein bod wedi tueddi i feddwl mai rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yw perygl anferth arfau niwclear.

“Dylai bygythiad Mr Putin fod yn ysgytwad i bob un ohonom.

“Rydyn ni wedi gweld pa mor gyflym y trodd y Rhyfel Oer yn Rhyfel Poeth yn yr Wcráin. Gweddïwn ar Dduw na fydd yn datblygu’n rhyfel niwclear. Dyna fyddai diwedd y ddynoliaeth.

“Ar Ddydd Gŵyl Dewi, dylem gofio bod gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus o hyrwyddo heddwch – o ddyddiau Henry Richard, gweinidog Annibynnol ac AS, ac Ysgrifennydd Cyntaf y Gymdeithas Heddwch Rhyngwladol yn 1850, i’r gwaith ymroddedig sy’n cael ei wneud gan Gymdeithas y Cymod heddiw.

“Wrth i ni weddïo dros Gymru a’n pobol y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rydyn ni hefyd yn gweddïo dros bobol yr Wcráin a phawb arall sy’n dioddef oherwydd y gwrthdaro ofnadwy yno.”

Cafodd rali ei chynnal ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd neithiwr (nos Lun, Chwefror 28) er mwyn cydsefyll â’r Wcrain a galw am ddod â’r rhyfel i ben, a bydd Academi Heddwch Cymru’n cynnal trafodaeth banel Cymru Dros Heddwch yn yr Wcráin ar-lein heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 1) am 12:30yh.

Nos Iau (Mawrth 3), bydd Cymdeithas y Cymod yn cynnal cyfarfod rhithiol â heddychwyr o’r Wcráin a thu hwnt.