Mae’r digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi oedd i fod i gael ei gynnal yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 1) wedi cael ei ganslo oherwydd y sefyllfa bresennol yn yr Wcráin.

Roedd y tensiynau wedi gwaethygu eto neithiwr (nos Lun, Chwefror 28), wrth i filwyr Rwsiaidd agosáu at ddinasoedd mwya’r Wcráin, gan gynnwys y brifddinas Kyiv.

Yn ogystal, fe wnaeth taflegryn daro a ffrwydro yng nghanol yr ail ddinas fwyaf Kharkiv fore heddiw, gyda’r Arlywydd Volodomyr Zelenskyy yn galw hynny’n “drosedd ryfel”.

Canslo

Yn sgil y sefyllfa sy’n mynd yn gynyddol waeth, fe wnaeth Senedd Cymru gadarnhau bod eu digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi wedi ei ganslo.

Mewn datganiad, dywedon nhw eu bod nhw’n “parhau i feddwl am bobol yr Wcráin ar yr adeg anodd hon.”

Roedd disgwyl i’r Llywydd Elin Jones annerch y gynulleidfa ar y diwrnod, yn ogystal ag arddangosfa gan y ffotograffydd a’r bardd, Zillah Bowes, yn dathlu cymunedau o bob cwr o Gymru.

Er na fydd modd gweld y gwaith celf heddiw, fe fydd yr arddangosfa – Gwawr / Dawn – i’w gweld yn y Senedd tan gyfnod y Pasg.

Roedd perfformiad digidol gan gwmni theatr Hijinx yn archwilio’r testun “Eich Llais” hefyd yn ymddangos ar y rhaglen.

Does dim cadarnhad a fydd y digwyddiad yn cael ei ail-drefnu ar gyfer dyddiad arall yn y dyfodol.

Rali

Fe wnaeth cannoedd o bobol gasglu ar risiau’r Senedd neithiwr (nos Lun, Chwefror 28) er mwyn dangos undod â phobol yr Wcráin.

Roedd Svitlana Phillips o Lais Wcráin Cymru, arweinydd Plaid Cymru Adam Price, a Chwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw, sydd o dras Wcreinaidd, yn galw yn ystod y rali am ddod â’r gwrthdaro i ben.

“O un brifddinas yn meddwl am brifddinas arall sydd heno dan warchae, mae’n rhaid inni droi at bolisi o sancsiynau,” meddai Adam Price yn y rali.

“Mae’n rhaid inni droi at embargo economaidd llwyr, a pharlysu gwlad Rwsia.”

Fe wnaeth Aelwyd y Waun Ddyfal ddarparu perfformiad teimladwy o ‘Gorwedd Gyda’i Nerth’ gan Caryl Parry Jones yn ystod y rali hefyd.

Neges

“Fel Seneddau ledled y byd, mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai’r Senedd yn eu neges ar Ddydd Gŵyl Dewi.

“Fe barhaodd democratiaeth yng Nghymru, hyd yn oed yn nyfnderoedd y clo mawr.

“O ganlyniad i ddyfeisgarwch ac ymrwymiad y Senedd i’w phobl, roedd modd dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau – penderfyniadau a effeithiodd ar fywydau pob person yng Nghymru.

“Mae heddiw yn garreg filltir allweddol i ni. Am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd, gwahoddir pob un o’r 60 Aelod i ddod i’r Siambr eto.

“Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes ein Senedd, mae’n briodol ein bod – ar Ddydd Gŵyl Dewi – yn oedi ac ystyried digwyddiadau rhyngwladol. Yn gyfle i gydnabod pwysigrwydd ein strwythurau democrataidd ac eto pa mor fregus maent yn gallu bod.

“Mae’n anochel bod ein meddyliau’n troi at Wcráin a’i dinasyddion arwrol sy’n dioddef caledi anhygoel wrth frwydro i ddiogelu a chynnal eu cenedl sofran, eu democratiaeth falch, a’u ffordd o fyw.

“Rydym yn meddwl am y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol niferus y mae Cymru’n eu rhannu ag Wcráin a’r gymuned Wcrainaidd uchel ei pharch sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddi.

“Unwaith eto heno, fe fydd y Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin fel arwydd o’n undod â hwy. Mae Wcráin a’i phobl yn parhau yn ein calonnau.

“Ar Ddydd Gwyl Dewi yma felly, dewch i ni drysori yr hyn sydd gennym ac hefyd estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad.”

Cynnal rali o flaen y Senedd i ddangos undod â’r Wcráin

“Mae [Vladimir Putin] wedi datgan rhyfel nid yn unig ar hawl cenedl Wcreinaidd i fodoli – ond ar ryddid, democratiaeth a hawliau dynol ym mhobman”
Paul Mason

Adam Price, Mick Antoniw a’r Wcráin: sgwrs gyda’r newyddiadurwr Paul Mason ar ôl dod adre’n ôl

Alun Rhys Chivers

Cyn-olygydd gyda Channel 4 a Newsnight y BBC yn siarad â golwg360 wrth ddod adref o’r Wcráin gydag arweinydd Plaid Cymru a Chwnsler Cyffredinol Cymru

Adam Price a Mick Antoniw yn yr Wcráin mewn undod â gweithwyr a lleiafrifoedd

Maen nhw yno i wrthwynebu gweithgarwch Rwsia yn y wlad