Mae’r Gymraeg yn un o’r saith iaith sydd i’w clywed mewn fideo newydd gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Methiant y Galon (BSH).

Bwriad y fideo byr animeiddiedig yw addysgu unigolion am swyddogaeth y galon, ac mae wedi ei dargedu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd neu unrhyw un arall sydd eisiau dysgu am y cyflwr.

O’r 340,000 o bobol yng Nghymru sy’n byw gyda chlefyd y galon neu glefyd cylchredol, mae o gwmpas 36,000 wedi cael diagnosis o fethiant y galon gan eu meddyg teulu.

Mae methiant y galon yn gyflwr lle mae’r galon ag anallu i bwmpio gwaed o amgylch y corff yn iawn, ac mae fel arfer yn digwydd pan fydd y galon yn datblygu i fod yn rhy wan neu’n anystwyth.

Gyda disgwyl y bydd y boblogaeth dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu, codi fydd achosion o fethiant y galon oherwydd hynny.

Deall eich calon

Oherwydd y bydd achosion o’r cyflwr yn cynyddu, mae’r fideo wedi ei greu fel rhan o gyfres o adnoddau sy’n cynyddu’r sylw o’i gwmpas.

Y gobaith yn sgil y fideo a’r ymgyrch ehangach – ‘Freedom from Failure’ – yw addysgu unigolion i adnabod, synhwyro, a thrin y cyflwr pan fo’n digwydd.

Mae’r fideo hefyd ar gael drwy gyfrwng y Saesneg, Bengali, Gujarati, Punjabi, Pwyleg ac Wrdw.

Mae modd lleihau’r risg drwy ymarfer corff, lleihau halen mewn diet, osgoi gormod o alcohol, peidio ysmygu, a chynnal pwysau corff iach.

Dywed yr Athro Roy Gardner, cadeirydd y BSH, fod cynnydd mawr yn cael ei wneud wrth drin ac atal methiant y galon.

“Gellid dadlau mai methiant y galon yw stori lwyddiant fwyaf meddygaeth fodern, achos rydyn ni wedi gwneud cynnydd rhyfeddol dros y ddau ddegawd diwethaf,” meddai.

“Ac er ei fod yn parhau i fod yn gyflwr beichus, gwanychol yn aml, gyda rheolaeth briodol mae’n bosibl i bobol fyw’n iach gyda methiant y galon.

“Mae’n bosib gwella canlyniadau’n sylweddol drwy ddiagnosis cynharach a chyflymach, yn ogystal â chyflymu’r driniaeth optimaidd i’r therapïau canllaw sy’n cael eu hargymell.

“Mae hwn yn nod pwysig i’r gofal yr ydyn ni’n ei ddarparu fel arbenigwyr methiant y galon.”