Bydd cynllun tymor hir “i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws” yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fory (dydd Gwener, Mawrth 4).

Mae’r cynllun yn nodi dechrau cyfnod o bontio fel bod Cymru’n mynd tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig.

Fe fydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, ac ni fydd newid i’r rheolau.

Golyga hynny bod rhaid parhau i wisgo mygydau mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn lleoliadau meddygol.

Ond, gallai’r holl fesurau cyfreithiol gael eu dileu o 28 Mawrth ymlaen, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Tuag at ddyfodol mwy diogel’

Mae ‘Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Covid-19 – Cynllun Pontio hirdymor Cymru o Bandemig i Endemig’ yn nodi dull pontio graddol gan symud oddi wrth fesurau argyfwng.

Amlinella’r cynllun sut y bydd Cymru’n ymateb i’r coronafeirws o dan ddwy senario, Covid Sefydlog a Covid Brys.

Covid Sefydlog yw’r senario fwyaf tebygol, meddai Llywodraeth Cymru, ac maen nhw’n disgwyl dod ar draws tonnau ychwanegol o Covid, ond nid oes disgwyl y byddan nhw’n rhoi “pwysau anghynaladwy” ar y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r cynllun yn nodi dull graddol o reoli’r feirws yn y tymor hir o dan senario Covid Sefydlog:

  • Cefnogi pobol i gynnal y camau mae pawb yn gyfarwydd â nhw i helpu i leihau trosglwyddiad pob haint anadlol.
  • Brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i bobol hŷn a’r rhan fwyaf o oedolion agored i niwed, a rhaglen frechu Covid-19 reolaidd o’r hydref ymlaen.
  • Y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu i symud yn raddol oddi wrth brofion symptomatig ac asymptomatig cyffredinol a rheolaidd, a’r gofyniad i hunanynysu, tuag at ddull sy’n targedu, i raddau mwy, y bobol sy’n agored i niwed.
  • Addasu gwasanaethau cyhoeddus megis drwy ddefnyddio asesiadau risg a chynlluniau rheoli i fynd i’r afael â chynnydd mewn achosion yn lleol.
  • Busnesau a chyflogwyr eraill i ddatblygu’r elfennau rheoli heintiau y maen nhw wedi bod yn eu rhoi ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid.

Mae gwaith cynllunio wrth gefn ar y gweill i alluogi Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymateb yn gyflym i senario Covid Brys, megis ymddangosiad amrywiolyn newydd sy’n dianc rhag effaith y brechlyn, pe bai ei angen.

“Hyder cynyddol”

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, nad oes amheuaeth “ein bod ni wedi cyrraedd adeg arwyddocaol yn y pandemig hwn”.

“Rydym wedi bod yn byw yng nghysgod pandemig y coronafeirws ers dwy flynedd,” meddai Mark Drakeford.

“Mae wedi cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd – ledled Cymru, mae teuluoedd a chymunedau wedi aberthu llawer i gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel. Mae pobol yng Nghymru wedi dilyn y rheolau.

“Ond yn anffodus, mae gormod o deuluoedd wedi teimlo’r boen o golli rhywun annwyl neu ffrind agos. Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd.

“Wrth inni gyhoeddi’r cynllun hwn ar gyfer y tymor hwy, does dim amheuaeth ein bod wedi cyrraedd adeg arwyddocaol yn y pandemig hwn, a gallwn edrych tua’r dyfodol gyda hyder cynyddol y bydd y flwyddyn nesaf yn un lle mae gennym berthynas wahanol â’r feirws.

“Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd gwaith caled pawb, ac ymdrech yr holl staff iechyd a gofal, gweithwyr y sector cyhoeddus a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Ond nid yw’r pandemig ar ben – mae hwn yn feirws sy’n llawn syrpreisys cas ac mae’n debygol y byddwn yn gweld patrymau amrywiol o ran yr haint ar lefel fyd-eang am sawl blwyddyn. Mae angen inni fod yn barod i ymateb yn gyflym i unrhyw frigiadau o achosion yn y dyfodol neu amrywiolion newydd wrth inni ddysgu byw ochr yn ochr â’r coronafeirws yn yr hirdymor.

“Rydym wedi dysgu cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae angen i ni ddefnyddio hyn wrth i ni edrych tuag at ddyfodol mwy diogel a disglair gyda’n gilydd.”

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn cael ei gynnal ar 24 Mawrth, a’r mesurau sydd dal mewn grym yn cael eu hadolygu eto.