Mae Plaid Cymru’n galw am ragor o eglurder ar gyfer pobol fregus ar ôl i Lywodraeth Cymru ddechrau paratoi i ddileu’r cyfyngiadau Covid-19 yn llwyr.
Bydd cynllun tymor hir “i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws” yn cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth heddiw (dydd Gwener, Mawrth 4).
Mae’r cynllun yn nodi dechrau cyfnod o bontio fel bod Cymru’n mynd tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig.
Fe fydd Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, ac ni fydd newid i’r rheolau.
Golyga hynny fod rhaid parhau i wisgo mygydau mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mewn lleoliadau meddygol am y tro.
Ond gallai’r holl fesurau cyfreithiol gael eu dileu o Fawrth 28, pe bai sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog, meddai Llywodraeth Cymru.
‘Tuag at ddyfodol mwy diogel’
Mae ‘Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel: Covid-19 – Cynllun Pontio hirdymor Cymru o Bandemig i Endemig’ yn nodi dull pontio graddol gan symud oddi wrth fesurau argyfwng.
Amlinella’r cynllun sut y bydd Cymru’n ymateb i’r coronafeirws o dan ddwy senario, Covid Sefydlog a Covid Brys.
Covid Sefydlog yw’r senario fwyaf tebygol, meddai Llywodraeth Cymru, ac maen nhw’n disgwyl dod ar draws tonnau ychwanegol o Covid, ond nid oes disgwyl y byddan nhw’n rhoi “pwysau anghynaladwy” ar y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r cynllun yn nodi dull graddol o reoli’r feirws yn y tymor hir o dan senario Covid Sefydlog:
- Cefnogi pobol i gynnal y camau mae pawb yn gyfarwydd â nhw i helpu i leihau trosglwyddiad pob haint anadlol.
- Brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn i bobol hŷn a’r rhan fwyaf o oedolion agored i niwed, a rhaglen frechu Covid-19 reolaidd o’r hydref ymlaen.
- Y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu i symud yn raddol oddi wrth brofion symptomatig ac asymptomatig cyffredinol a rheolaidd, a’r gofyniad i hunanynysu, tuag at ddull sy’n targedu, i raddau mwy, y bobol sy’n agored i niwed.
- Addasu gwasanaethau cyhoeddus megis drwy ddefnyddio asesiadau risg a chynlluniau rheoli i fynd i’r afael â chynnydd mewn achosion yn lleol.
- Busnesau a chyflogwyr eraill i ddatblygu’r elfennau rheoli heintiau y maen nhw wedi bod yn eu rhoi ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid.
Mae gwaith cynllunio wrth gefn ar y gweill i alluogi Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymateb yn gyflym i senario Covid Brys, megis ymddangosiad amrywiolyn newydd sy’n dianc rhag effaith y brechlyn, pe bai ei angen.
Pwy sy’n fregus? A fydd profion am ddim o hyd?
Wrth ymateb, mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn gofyn am eglurder ynghylch pwy sy’n cael eu hystyried yn fregus, ac am sicrwydd y bydd profion Covid-19 yn dal ar gael yn rhad ac am ddim.
“Mae’r Llywodraeth bellach yn amlinellu lle bydd angen profi a hunanynysu o hyd ac yn cael ei gefnogi dros y misoedd i ddod, sydd i’w groesawu, ond nawr mae angen i ni wybod pwy yn union fydd yn cael eu hadnabod fel rhai sydd mewn grwpiau bregus ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni wybod y bydd profion yn dal yn rhad ac am ddim,” meddai.
“Un peth rydyn ni’n ei wybod yn sicr yw’r angen i adeiladu gwytnwch yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal.
“Nid mater o aros i Covid fynd yn unig yw cael y Gwasanaeth Iechyd yn ôl ar y trywydd cywir, yn wir fe fydd o efo ni am beth amser eto.
“Tra bod Covid yn sicr wedi ychwanegu at broblemau, roedd materion wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn bodoli ymhell cyn y pandemig.
“O ganlyniad, rhaid i’r symudiad graddol o bandemig i endemig ddod efo cynllun sy’n cynnwys datrysiadau tymor hir i oresgyn problemau hirdymor.”
Croesawu’r cyhoeddiad
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth Lafur gydnabod o’r diwedd yr angen i fyw gyda Covid, gan dalu sylw i’n galwadau i gyhoeddi cynllun a gosod dyddiadau ar gyfer terfyn ar gyfreithiau Covid, gan gyfateb i’n terfyn amser ar ddiwedd mis Mawrth,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.
“Mae cadw’r cyfreithiau hyn yn eu lle yn ddiangen o hir yn colli ymddiriedaeth y bobol.
“Mae hi’n drueni mai Cymru oedd cenedl ola’r Deyrnas Unedig i gael cynllun, y bydd adfer ein rhyddid yn llwyr ond yn dod wythnosau ar ôl Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac nad oedd Mark Drakeford wedi cyflwyno’i gynllun yn uniongyrchol i’r ddeddfwrfa genedlaethol fel y gwnaeth Boris Johnson a Nicola Sturgeon.
“Rydym newydd fynd heibio dwy flynedd o Covid yng Nghymru.
“Diolch i’r rhaglen frechu, gwaith caled gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a nerth pobol Prydain, rydyn ni mewn lle llawer gwell nag yr oedden ni bryd hynny.
“Mae’n bryd i ni fyw gyda’r feirws.
“Dylai sylw gweinidogion Llafur fod wedi symud amser maith yn ôl tuag at fynd i’r afael â rhestrau aros hirfaith am driniaeth sy’n torri record yng Nghymru, lle mae un ym mhob pump o bobol yn aros, gyda’u chwarter nhw’n aros dros flwyddyn.
“Does gan Lafur ddim esgus nawr i beidio â thrwsio’r materion hirdymor yn y Gwasanaeth Iechyd.”