Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu ugain tŷ fforddiadwy ar hen safle ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar stop am y tro yn sgil pryderon “munud olaf” am lygredd ffosffad.

Mae cymdeithas dai Barcud eisiau adeiladu’r tai a’r byngalos ar hen safle Ysgol Gynradd Coedmor yng Nghwmann ger Llanbedr Pont Steffan.

Fe wnaeth swyddogion cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin argymell cymeradwyo’r cynllun pan ddaeth gerbron pwyllgor cynllunio’r cyngor ddoe (dydd Iau, Mawrth 3).

Yn ôl adroddiad y swyddogion i’r pwyllgor, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru’n hapus bod y cynllun, yn ôl y cais, yn annhebygol o gynyddu’r lefelau llygredd ffosffad sy’n treiddio i ddalgylch Afon Teifi.

Roedd hynny’n gam arwyddocaol gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru’n poeni bod ffosffadau, yn bennaf yn sgil gwastraff amaethyddol, yn niweidio ansawdd dŵr afonydd. Maen nhw wedi cyhoeddi targedu ar gyfer lleihau lefelau ffosffad mewn afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru.

Mae’r targedau hynny’n effeithio dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi, ac mae Cwmann yn y dalgylch hwnnw.

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adolygu’r sefyllfa, ac yn dweud bod gan y datblygiad y potensial i gynyddu lefelau’r ffosffad sy’n treiddio i’r dalgylch.

Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Cyngor am fwy o wybodaeth ynghylch sut y byddai Dŵr Cymru’n delio â’r gwastraff o’r ugain tŷ.

“Gan gymryd bod y cyngor hwn yn cael ei ddilyn, ac eich bod chi’n gallu dod i’r casgliad nad yw’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig, ni fyddai gennym ni unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Wrth siarad gyda’r pwyllgor cynllunio, dywedodd y swyddog cynllunio Gary Glenister bod y cyngor diweddaraf yn dilyn trafodaethau rhwng yr awdurdod a Chyfoeth Naturiol Cymru, a’i fod wedi “dod ar y funud olaf”.

Dywedodd fod angen gwaith pellach, a chafodd ei gais i ohirio gwneud penderfyniad ei gymeradwyo gan y pwyllgor.

Roedd yna wrthwynebiadau i’r cais, gan gynnwys gan Gyngor Cymuned Pencarreg, a gyfeiriodd at y lefelau ffosffad a chapasiti gwastraff, ymysg materion eraill.

‘Parlysu cynlluniau’

Ar ôl yr oedi yn y penderfyniad, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, cadeirydd y pwyllgor cynllunio, fod cynllunio’n cael ei “barlysu” yn sgil materion yn ymwneud â ffosffad.

Dywedodd fod glanhau ansawdd afonydd yn fwriad “cwbl deilwng”, ond nad oedd cynghorau wedi derbyn unrhyw wybodaeth glir na chanllawiau o ran ffosffad.

O ganlyniad, mae nifer o ddatblygiadau tai yng Nghymru ar stop, meddai, gan ychwanegu bod “cynllunio’n cael ei barlysu yn yr achosion hyn”.

Dywedodd wedyn fod y Cyngor wedi datblygu “cyfrifiannell ffosffad” i helpu datblygwyr a swyddogion cynllunio wrth asesu a fydd cynllun yn cynyddu lefelau ffosffad mewn dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ai peidio.

Dywedodd ei fod yn pryderu y byddai’r broblem gyda ffosffad yn effeithio ar nod y cyngor i ddarparu nifer benodol o dai fforddiadwy yn y sir.

“Dw i wir yn gobeithio y cawn ni atebion,” meddai.