Mae Janet Finch-Saunders wedi cyhuddo Llafur o geisio “plesio Plaid Cymru” drwy roi’r hawl i gynghorau sir gynyddu premiwm treth cyngor i berchnogion ail gartrefi i 300%.

Wrth siarad â golwg360, mae llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig wedi rhybuddio nad yw’r polisi am “ddatrys y broblem tai yng Nghymru”.

Mae’r newidiadau yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Plaid Cymru, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy.

Newid arall sydd ar y gweill yw diwygio’r meini prawf ar gyfer newid diffiniad llety gwyliau.

Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar sail rheoliadau drafft sy’n argymell newid diffiniad o lety hunanddarpar.

Ar hyn o bryd, mae eiddo sydd ar gael i’w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy’n cael ei osod am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi busnes yn hytrach na’r dreth gyngor.

Pe bai’r newid yn cael ei gadarnhau, byddai’r trothwyon hyn yn cynyddu, fel y byddai’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod fel llety gwyliau am o leiaf 252 diwrnod o’r flwyddyn, a chael ei osod am o leiaf 182 diwrnod, i barhau i dalu’r ardrethi busnes hynny.

‘Diffyg tai’

“Diffyg tai” yw’r “broblem sylfaenol” yng Nghymru, yn hytrach na nifer y tai haf sydd mewn cymunedau, yn ôl Janet Finch-Saunders.

“Yr un peth dw i wedi sylwi yw bod ail gartrefi, neu dai haf, wedi cymryd drosodd yr agenda, gan anwybyddu’r ffaith nad oes digon o dai i bobol leol yn gyffredinol, meddai wrth golwg360.

“Y broblem sylfaenol sydd gennym ni yma yng Nghymru yw diffyg tai.

“Os wyt ti’n edrych ar nifer yr adeiladau gwag sydd gennym ni, neu nifer y lletyau dros dro sy’n bodoli yng Nghymru, dyna yw gwraidd y broblem.

“Dydy Llywodraeth Cymru’n gwneud dim ymdrech i gael yr adeiladau gwag hyn yn ôl i stoc y farchnad dai.

“Y peth arall mae’n rhaid ei gofio yw bod perchnogion ail dai yn cyfrannu i’r economi, maen nhw’n defnyddio’r bwytai, y siopau ac yn rhoi hwb i’r stryd fawr.

“A dydyn nhw ddim yn defnyddio llawer o wasanaethau (cyhoeddus).

“Felly mae’r polisi hwn yn targedu’r bobol anghywir, dydy trethu pobol byth yn ffordd dda o ddatrys problem.”

Janet Finch-Saunders, Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Tai

“Plesio Plaid Cymru”

Ymdrech gan y Blaid Lafur i “blesio Plaid Cymru” fel rhan o’r cytundeb cydweithio yw’r polisi, yn ôl Janet Finch-Saunders.

“Mae’n rhaid mai dyna sy’n digwydd yn fan hyn, oherwydd mae Plaid Cymru yn credu mai dyma’r ffordd i ddatrys y broblem,” meddai.

“Dw i’n synnu pa mor gyflym maen nhw wedi bwrw ymlaen â hyn oherwydd roedden ni wedi cytuno i fynd i’r afael â’r mater ar sail drawsbleidiol.

“Wrth gwrs, byddai anghytuno wedi bod, ond maen nhw jyst wedi bwrw ymlaen gyda pholisi brysiog heb y dystiolaeth, a hynny er mwyn plesio Plaid Cymru.

“Ond rydyn ni [y Ceidwadwyr Cymreig] yn anghytuno â’r polisi, a byddwn yn dadlau mai dyma’r peth anghywir i wneud a dyna’r ymateb dw i wedi ei gael ar lawr gwlad.

“Dw i wedi derbyn 37 o e-byst heddiw yn condemnio’r penderfyniad hwn.

“Beth sy’n bod gyda phobol sydd â’r uchelgais i fod yn berchen ar ail gartref, neu eiddo? Yn enwedig os ydyn nhw’n rhoi hwb ariannol i economi leol ychwanegol.

“Nid y polisi hwn yw’r dull gweithredu cywir, ac nid yw’n mynd i ddatrys y broblem tai yng Nghymru.”

‘Diwydiant lletygarwch yn newid’

“Mae’r holl batrwm o bobol yn mynd ar eu gwyliau yn newid, pobol yn gweithio’n fwy hyblyg ac ati,” meddai wedyn.

“Dw i’n byw yn Llandudno ac, o’r blaen, byddai’r gwestai yn brysur bob dydd Sadwrn.

“Ond nawr mae pobol yn cymryd dydd Llun neu ddydd Gwener i ffwrdd o’r gwaith ac yn mynd i ffwrdd am benwythnos hir ac mae’r diwydiant lletygarwch yn newid.

“Mae Llandudno a llefydd eraill yn Aberconwy yn brysur drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r bobol sy’n dod yn darparu swyddi.

“Yn yr un modd, mae pobol sydd ag ail dai yn gwario yn yr economi leol.

“Mae yna fwy o siawns i siopau a thafarndai aros yn agored pan mae gennych chi ail gartrefi yno.”

‘Cam pwysig’

Fodd bynnag, mae Siân Gwenllian, AoS Arfon, yn credu bod y mesur yn “gam pwysig” tuag at “daclo’r broblem”.

“Y syniad efo hyn ydy bod cynghorau yn gallu defnyddio’r arian er mwyn creu cartrefi i bobol yn eu cymunedau,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod ail gartrefi’n golygu bod pobol yn methu â chael cartref yn eu cymuned, ac mae hwn yn un ffordd o ddechrau taclo’r broblem yma.

“Mae o’n gam pwysig.

“Mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru, drwy weithio efo Plaid Cymru ar y Cytundeb Cydweithio, yn dangos yr ewyllys i geisio mynd i’r afael â’r broblem.

“Rydyn ni ar daith yn fan hyn, ac mae’n rhaid ymgynghori a mynd drwy’r camau cyfreithiol.

“Ond mae hyn yn arwyddocaol, oherwydd ei fod yn cychwyn ni ar y daith honno.

“Mae’n dangos fod Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth drwy’r Cytundeb Cydweithio i’n cymunedau ni, ac yn symud y drafodaeth ymlaen tuag at weithredu.

“Mae hi’n hen bryd newid y ddeddfwriaeth achos dydy o ddim yn adlewyrchu beth sy’n digwydd ar lawr gwlad.”

“Tai fforddiadwy”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n cydnabod bod anheddau gwag, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir, yn gallu bod yn broblem i gymunedau lleol.

“Rydyn ni wedi mynd ati i fynd i’r afael â’r problemau hyn gan edrych ar y system gyfan, ac mae cryn arian wedi’i fuddsoddi.

“Yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydyn ni wedi darparu £11m i awdurdodau lleol y mae ail gartrefi ac eiddo sy’n cael ei osod fel llety gwyliau yn effeithio ar eu cymunedau, fel y gallan nhw brynu ac adnewyddu cartrefi gwag at ddiben tai cymdeithasol.

“Yn ddiweddar, rydyn ni hefyd wedi cael ceisiadau am gyllid gan awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i’w helpu i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag, sy’n dod i gyfanswm o fwy nag £13.5m, ac wedi cymeradwyo’r ceisiadau hyn.

“Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni’n cyflwyno cynllun prydles yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru sy’n werth £30m dros bum mlynedd – bydd yn gwella mynediad at dai fforddiadwy tymor hirach, ac mae’n caniatáu i awdurdodau lleol osod eiddo gwag ar brydles er mwyn darparu cartrefi rhent fforddiadwy.”