Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol sydd am gyfrannu i gefnogi’r Wcráin i wneud hynny drwy roddion ariannol.
Mae cyfrannu nwyddau yn peri problemau ymarferol yng Nghymru a thramor, yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
Wrth ailadrodd eu hundod diamwys â phobol yr Wcráin yn wyneb ymosodiad Putin, dywed Jane Hutt fod y £4m sy’n mynd i’r wlad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyfrannu i apêl Pwyllgor Argyfyngau Cymru.
Drwy ddyrannu’r cyllid felly, maen nhw’n gallu sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen “mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl”, meddai.
“Canmolwyd haelioni’r cyhoedd yng Nghymru, sydd wedi bod yn awyddus i roi a chefnogi pobol Wcráin,” meddai Jane Hutt.
“Fodd bynnag, mae cyfrannu nwyddau yn peri problemau ymarferol yma a thramor.
“Rydym yn annog pobol sydd am gyfrannu – ac sy’n gallu gwneud hynny – i roi rhodd ariannol i apêl y Pwyllgor Argyfyngau yma: www.dec.org.uk.”
Mae ei neges yn adlewyrchu neges Siân Stephen, cydlynydd yr apêl, a geiriau Tomos Williams-Mason, ymgyrchydd o Abertawe, sy’n cydweithio â mudiad Llais Wcráin Cymru, sy’n dweud bod problemau ymarfer gyda chael nwyddau dros ffin yr Wcráin.
‘Cynnig pob cefnogaeth bosib’
Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ystod o fesurau cefnogaeth mewn ymateb i’r argyfwng, yn ôl Jane Hutt.
“Mae’r ymosodiad diachos ar Wcráin yn gwaethygu – yn yr un modd â’r argyfwng dyngarol enbyd, sydd wedi arwain at ddadleoli bron i filiwn o bobl mewn dim ond saith diwrnod,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i swyddogion, awdurdodau lleol, y trydydd sector, arweinwyr ffydd a’r cyhoedd am eu hymateb cyflym a chadarn. Mae hyn eto yn cadarnhau bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.
“Ddydd Mercher, cyfarfu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru a’r trydydd sector i drafod ein parodrwydd i dderbyn pobl sy’n dianc rhag y trais yn Wcráin.
“Roedd penderfyniad unfrydol i gynnig pob cefnogaeth bosibl.”
‘Chwarae ei rhan yn llawn’
Does gan Lywodraeth Cymru ddim pŵer datganoledig dros fewnfudo, ac felly mae faint o bobol mae modd i Gymru gynnig lloches iddyn nhw yn ddibynnol ar bolisi San Steffan.
“Rydym yn archwilio opsiynau i sicrhau y gellir darparu cymorth yma yng Nghymru pan fydd dinasyddion Wcráin yn dechrau cyrraedd,” meddai Jane Hutt.
“Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach maes o law.
“Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeall sut y bydd ei chynlluniau fisa arfaethedig yn gweithredu a sut y gall Cymru chwarae ei rhan yn llawn.
“Rydym yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru er mwyn nodi unrhyw fuddsoddiadau sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth Rwsia a gweithredu ar hynny.
“Nid oes amheuaeth mai Putin, ac nid pobol Rwsia, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad diachos hwn yn Wcráin.
“Yng Nghymru, mae gennym aelodau gwerthfawr o’r gymuned sy’n hanu o Wcráin, Rwsia a Belarws a rhaid inni sicrhau bod ein geiriau a’n gweithredoedd yn amddiffyn eu diogelwch.
“Ategaf eiriau Mick Antoniw AS a roddodd deyrnged i fyfyrwyr a phobol ifanc ddewr Rwsia sydd wedi bod yn protestio ledled Ffederasiwn Rwsia. Y bobol hyn yw gwir ddyfodol Rwsia.”
Yn y cyfamser, mae tudalen bwrpasol wedi’i sefydlu ar wefan Llywodraeth Cymru’n nodi sut y gall pobol helpu.