Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dangos cefnogaeth lethol ar gyfer trigolion yr Wcráin, ac “wedi dychryn” gan y dinistr yno.
Yn y dyddiau diwethaf, mae’n debyg bod pob un o gynghorau sir Cymru bellach wedi cytuno mewn egwyddor i ddarparu lloches i ffoaduriaid pe baen nhw’n cyrraedd y wlad.
Erbyn bore dydd Iau (Mawrth 3), roedd miliwn o bobol wedi ffoi o’r Wcráin er mwyn osgoi’r rhyfel.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim pŵer datganoledig dros fewnfudo, ac felly mae faint o bobol y mae modd i Gymru gynnig lloches iddyn nhw yn ddibynnol ar bolisi San Steffan.
Er hynny, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i gynnig help llaw wrth groesawu unrhyw ffoaduriaid sy’n cyrraedd yma.
“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi dychryn wrth weld y dinistr sy’n cael ei achosi yn yr Wcráin,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Does dim cais am ailsefydlu wedi ei roi eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae cynghorau yn brofiadol wrth helpu i ailsefydlu pobol o wledydd sydd wedi eu heffeithio gan ryfel, a bydden nhw’n gwneud eu gorau glas i gefnogi unrhyw ymdrechion o’r fath.”
‘Sefyllfa hon yn drychineb’
Roedd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn ategu at hynny, ac yn dweud y byddai eu “breichiau ar agor” i groesawu ffoaduriaid.
“Mae pethau yn gwaethygu yno yn anffodus, ac mae pobol yn dal i ddenig o’r wlad,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r holl sefyllfa hon yn drychineb ac yn echrydus.
“Wrth feddwl ein bod ni’n gorfod wynebu’r ffasiwn sefyllfa ar dir Ewrop tri chwarter canrif ar ôl cyflafan arall – does neb eisiau gweld hynny’n digwydd eto.
“Mae breichiau Ceredigion a Chymru gyfan ar agor i groesawu unrhyw un sydd angen help.”
‘Gwneud popeth posibl’
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru’r wythnos ddiwethaf y bydden nhw’n “barod i chwarae rhan lawn” yn cefnogi Llywodraeth y Deyrnas Unedig pe bai cynllun ffoaduriaid swyddogol yn cael ei ddarparu.
“Rydym yn pryderu’n fawr am y sefyllfa yn Wcráin,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn meddwl am yr holl gymunedau hynny y mae’r gwrthdaro hwn yn effeithio arnynt, gan gynnwys unrhyw un sydd eisoes yn byw yma yng Nghymru a fydd yn pryderu am gyfeillion ac aelodau o’r teulu.
“Mae Cymru yn Genedl Noddfa ac, os bydd angen, byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod pobol Wcráin a’u teuluoedd yn gallu cyrraedd lle diogel a chael croeso yma.
“Rydym yn haeddiannol falch o’r gwaith y mae Cymru wedi’i wneud gyda’n gilydd i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth ac sydd wedi chwilio am noddfa yma dros y blynyddoedd
“Rydym yn barod i chwarae rhan lawn wrth gefnogi ymateb y Deyrnas Unedig a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r holl bartneriaid allweddol yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig er mwyn cyflawni hynny.”
Un o’r unig gynlluniau sydd wedi eu crybwyll gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn yw rhoi’r gallu i wirfoddolwyr “noddi unigolyn neu deulu” o’r Wcráin.
Ar hyn o bryd, mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i unrhyw berson sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig i ddod ag aelodau teulu o’r Wcráin i’r wlad ar unwaith.
Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn nodi lle nad yw aelodau o deulu yn y Deyrnas Unedig yn bodloni’r meini prawf – ond yn pasio gwiriadau diogelwch – y byddan nhw’n cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig y tu allan i’r rheolau am 12 mis.
Mae hi’n bosib i bobol o’r Wcráin sydd heb deulu yn y Deyrnas Unedig ddod yma drwy gael eu noddi gan unigolion, elusennau, busnesau, neu grwpiau cymunedol drwy Lwybr Nawdd Dyngarol, hefyd.