Byddai cyflwyno deddf sy’n rhoi hawl i sefydliadau cymunedol roi’r cynnig cyntaf am dir sydd ar werth yn eu hardal yn helpu i ddarparu tai fforddiadwy yn lleol, medd adroddiad newydd.
Yn ôl asiantaeth datblygu cydweithredol fwyaf y Deyrnas Unedig, byddai cyflwyno Ddeddf Perchnogaeth Gymunedol a Grymuso yn rhoi cyfle i sefydliadau cymunedol gael mwy o reolaeth dros asedau a thir yn lleol.
Fe wnaeth Canolfan Cydweithredol Cymru gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad diweddar, a oedd yn dangos diffygion yn y system dai bresennol.
Ymhlith yr argymhellion eraill mae sefydlu comisiwn i edrych ar berchnogaeth gymunedol ar dir ac asedau, a datblygu cronfa ddata perchnogaeth tir a thrafodion tir.
Nod yr argymhellion yw “gwella democratiaeth ar lefel leol a throsglwyddo’r cydbwysedd o ran pŵer oddi wrth berchnogion tir cyfoethog i sicrhau bod pobol ledled Cymru yn meddu ar y gallu i ffurfio eu hardaloedd lleol yn well”, meddai’r Ganolfan.
Cynnig cyntaf
Byddai’r ddeddf ar berchnogaeth gymunedol yn cynnwys hawl cyfreithiol i sefydliadau cymunedol roi’r cynnig cyntaf am asedau sy’n cael eu gwerthu yn eu hardal leol.
Mewn arolwg a gafodd ei gynnal gan y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd 68% o’r cyfranogwyr y bydden nhw’n cefnogi deddfwriaeth o’r fath, tra bod 8% yn unig yn dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu.
Mae polisi tebyg eisoes mewn grym yn yr Alban – yn rhan o Ddeddf Diwygio Tir 2003 – sy’n rhoi’r cynnig cyntaf i gyrff cymunedol ar safleoedd sydd ar werth yn eu hardal.
Yn ôl Canolfan Cydweithredol Cymru, byddai’r ddeddf yn arwain at fwy o gyfleoedd i gymunedau gael gafael ar dai er mwyn mynd i’r afael â’r galw.
“Mae potensial cynyddol ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru,” meddai Prif Swyddog Gweithredol y ganolfan, Derek Walker.
“Rydyn ni’n gweithio gyda thros 60 o grwpiau sy’n dymuno datblygu eu tai fforddiadwy eu hunain – ond mae rhwystrau o hyd y gellir ond eu goresgyn gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
“Nid y lleiaf o’r rhain yw’r anhawster i grwpiau cymunedol gaffael tir ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy.
“Felly, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau hawliau perchnogaeth gymunedol a grymuso.
“Bwriad yr argymhellion yn ein hadroddiad yw gwella democratiaeth ar lefel leol a throsglwyddo’r cydbwysedd o ran pŵer oddi wrth berchnogion tir cyfoethog i sicrhau bod pobol ledled Cymru yn meddu ar y gallu i ffurfio eu hardaloedd lleol yn well.”
“Rhan bwysig o’r ateb”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae system dai sy’n cael ei harwain gan y gymuned yn dal i fod yn rhan bwysig o’r ateb i’r sefyllfa dai yng Nghymru, ac mae’n cyfrannu at gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu.
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i gefnogi systemau tai cydweithredol, mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol, ac rydyn ni wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer Canolfan Gydweithredol Cymru i £180,000 y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi’r gwaith hwn.”